2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth seibiant i ofalwyr di-dâl yn Nwyrain De Cymru? OQ56572
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol seibiant a hoe i gynnal iechyd meddwl a lles gofalwyr di-dâl. Ddydd Llun, ar ddechrau'r Wythnos Gofalwyr genedlaethol, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid newydd yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth seibiant brys a datblygu cronfa er mwyn galluogi pobl i gael seibiant byr.
Diolch, Weinidog. Fel y dywedoch, mae'n Wythnos Gofalwyr, ac rwy'n croesawu eich pecyn cymorth seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl, ond mae arnaf ofn nad yw hynny'n cyd-fynd â'r oedi cyn ailagor gwasanaethau gofal dydd. Y gwasanaethau hyn yw un o'r prif ffyrdd i ofalwyr di-dâl gael seibiant, ac mae rhai cynghorau eto i'w hailagor yn llawn. Deallaf fod Caerffili wedi dweud y byddant yn agor cyfleusterau fesul cam yn unig, ac maent wedi gofyn am gyngor gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha broses i'w dilyn i ganiatáu iddynt wneud hyn yn ddiogel. Nawr, mae cynghorau cyfagos fel Casnewydd eisoes wedi darparu gwasanaethau dydd, felly yn gyntaf, hoffwn wybod pam nad yw'r un canllawiau'n cael eu rhoi i bob cyngor. Ond yn ychwanegol at hynny, Weinidog, hoffwn bwysleisio—a gwn y byddwch yn deall hyn—yr effaith sylweddol y mae hyn oll yn ei chael ar gannoedd o deuluoedd, teuluoedd pobl ag anableddau dysgu neu anghenion cymhleth, gyda llawer ohonynt eisoes wedi cael y brechlyn ac yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn i ymdopi ac i weld eu ffrindiau. Ac mae angen y seibiant hwn ar eu teuluoedd—mae eu rôl yn anodd iawn, yn gorfforol ac yn emosiynol. Os gall rhai cynghorau gynnig y seibiant hwn, pam fod cynghorau eraill yn aros am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n poeni bod anghenion gofalwyr a'r niwed sy'n cael ei wneud i'r teuluoedd hyn yn mynd ar goll yn rhywle.
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r straen y mae gofalwyr wedi ei deimlo yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ac rwy'n sicr yn ymwybodol o'r bobl sy'n gofalu am bobl ag anabledd dysgu neu bobl â chlefyd Alzheimer, fod straen mawr arnynt hwy. Ac felly rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r pwynt y mae'n ceisio ei wneud.
Rydym wedi bod yn annog awdurdodau lleol i ailagor canolfannau dydd, ac mewn gwirionedd rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghaerffili, ac rydym wedi bod yn trafod—mae'r swyddogion wedi bod yn trafod gyda chyngor Caerffili—er mwyn ceisio cyflymu'r broses. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod y ddarpariaeth o wasanaethau dydd sydd wedi agor yn ddarniog—wedi'i gwasgaru ledled Cymru. Ac felly rydym yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa hon, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hyn, ac rydym yn gweithio'n galed i geisio cael gwasanaethau dydd yn weithredol, fel y dylent fod bellach.
Weinidog, mae dros 22,000 o ofalwyr ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru. Gall y pwysau a wynebir gan y bobl ifanc hyn oherwydd eu dyletswyddau gofalu gael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol, eu hiechyd meddwl, eu haddysg a'u cyfleoedd cyflogaeth eu hunain. Mae'r pwysau ar y bobl ifanc hyn wedi gwaethygu yn sgil y pandemig—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Mae gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind yn waith gwerth chweil, ond mae hefyd yn anhygoel o anodd. Mae gwybod eich bod yn gallu dianc am seibiant yn gymhelliant mawr, yn enwedig lle rydych yn hyderus y bydd y person rydych yn gofalu amdano yn derbyn gofal yn eich absenoldeb. Fe sonioch chi am y £3 miliwn a ddarparwyd gennych i awdurdodau lleol yn gynharach yng Nghymru, ond hoffwn wybod sut y byddwch yn monitro hyn a'r cynnydd go iawn fod y £3 miliwn hwnnw'n mynd i gael ei wario at ddibenion priodol.
Diolch ichi am y cwestiwn pwysig hwnnw, unwaith eto, oherwydd yn bendant, mae anghenion gofalwyr ifanc yn flaenoriaeth uchel yng nghynlluniau'r Llywodraeth, a gwyddom cymaint y maent yn ei wneud wrth ofalu am eu hanwyliaid. Ar y £3 miliwn, mae £1.75 miliwn eisoes wedi'i roi i'r awdurdodau lleol i gefnogi'r cynlluniau seibiant presennol y maent yn eu darparu eisoes. Y £1.25 miliwn arall, ceir prosiect ymchwil sy'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu seibiant byr, ac edrych ar yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer seibiant byr. Er enghraifft, a oes angen i chi fod wedi cael asesiad gofalwr? Rwy'n credu efallai nad oes angen bod wedi cael asesiad gofalwr. Felly, rydym yn ceisio gwneud gofal seibiant yn fwy hyblyg ac yn haws i ofalwyr ei gael, gan gynnwys gofalwyr ifanc. Felly, bydd y prosiectau seibiant hyn rydym yn eu cyflwyno ar gael i ofalwyr ifanc a gofalwyr o bob oed, ac rydym yn arbennig o awyddus i ofalwyr ifanc elwa arnynt. Felly, diolch eto am y cwestiwn pwysig hwnnw.