2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
4. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo defnyddio mwy o ragnodi cymdeithasol mewn practisau meddygon teulu? OQ56570
Diolch, Huw. Mae egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol yn gyson â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru, megis y model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a 'Cymru Iachach'. Mae ein grŵp gorchwyl a gorffen ar bresgripsiynu cymdeithasol a sefydlwyd yn ddiweddar yn ceisio deall sut y gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu Cymru i adfer yn sgil COVID-19, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ymhlith eraill.
Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw'n fawr, Weinidog, oherwydd pan oeddwn yn llawer iau, ddegawdau'n ôl, pan oeddwn yn gynorthwyydd a rheolwr canolfan chwaraeon—gwn ei bod yn anodd credu hynny—fi oedd un o'r rhai cyntaf i gyflwyno ymarfer corff ar bresgripsiwn a chynlluniau atgyfeirio gan feddygon teulu yn ein canolfannau ledled Cymru a Lloegr ar y pryd. Ond wrth gwrs, mae pethau wedi symud ymlaen, rydym wedi arloesi. Bydd presgripsiynu cymdeithasol a chael pobl allan i'r awyr agored, a cherdded a beicio a bod yn rhan o grwpiau cyswllt cymdeithasol yn trechu unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd. Gwyddom fod hyn yn talu ar ei ganfed mewn cynifer o ffyrdd, ond mae rhwystrau i feddygon teulu—yr amser, yr esbonio ac yn y blaen. Felly, Weinidog, beth yn eich barn chi y bydd y tasglu'n ei ddangos yw'r prif rwystrau i bresgripsiynu cymdeithasol. Sut y gallwn gael presgripsiynu cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru, ym mhob meddygfa, ym mhob cyfleuster gofal sylfaenol, fel y gallwn roi'r dewis i bobl wneud rhywbeth hollol wahanol er mwyn eu hiechyd meddwl a'u lles corfforol hefyd?
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, Huw. Un o rolau allweddol y grŵp gorchwyl a gorffen yw datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a fydd yn cynnwys ymarfer cyffredinol. Bydd hefyd yn archwilio'r rhwystrau i ddatblygu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, gwyddom eisoes mai un o'r rhwystrau mwyaf y mae meddygon teulu yn eu hwynebu yw gwybod pa weithgareddau sydd ar gael iddynt yn lleol. Ac mae ymrwymiad yn ein strategaeth 'Cysylltu Cymunedau' i ymgorffori'r defnydd o Dewis, ein cyfeiriadur llesiant cenedlaethol o wasanaethau a gweithgareddau, gyda darparwyr gwasanaethau a'r cymunedau.
Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod fod pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn, gan gynnwys Cwm Taf Morgannwg, sy'n cefnogi nifer o brosiectau presgripsiynu cymdeithasol, yn enwedig y prosiect Cysylltu Cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nod y prosiect hwn yw cefnogi oedolion hŷn, pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr pobl sy'n agored i niwed i ddatblygu rhwydweithiau cymorth yn eu cymunedau a chryfhau gallu'r trydydd sector i ddiwallu anghenion. Ar ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 4,444 o bobl wedi elwa o'r prosiect. Mae hybiau datblygu cymunedol hefyd yn cael eu datblygu ar draws Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys datblygu hybiau ar draws y fwrdeistref i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell, effeithlon, cydgysylltiedig ac wedi'u lleoli'n agos at ble mae eu hangen. Ar 21 Mawrth, roedd cydgysylltwyr cymunedol wedi ymateb i bron i 4,000 o geisiadau am gymorth, gan ddargyfeirio'r angen oddi wrth ymyriadau gwasanaeth statudol i oedolion neu ymyriadau eraill a darparu cymorth cynnar i bobl yn y gymuned.
Weinidog, mae gan bresgripsiynu cymdeithasol rôl unigryw i'w chwarae yn atal yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Gall cadw'r corff yn egnïol atal cwympiadau, a gall cadw'r meddwl yn egnïol ymladd camau cyntaf dementia. Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Betsi Cadwaladr a'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i ddatblygu Gwnaed yng Ngogledd Cymru, sy'n helpu i gydlynu presgripsiynu cymdeithasol ar draws y gogledd. Sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda Gwnaed yng Ngogledd Cymru a'r trydydd sector ar draws y rhanbarth er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol? Diolch.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, un o rolau allweddol y grŵp gorchwyl a gorffen fydd defnyddio'r arferion da sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru a sicrhau bod yr arferion da hynny'n cael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae mewnbwn gan y byrddau iechyd i'r grŵp gorchwyl a gorffen, ac rwy'n awyddus iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'r angen am fframwaith cenedlaethol fel y gellir sicrhau cysondeb yn y cynnig presgripsiynu cymdeithasol i bobl yng Nghymru. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd, serch hynny, mai dim ond un rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud yw presgripsiynu cymdeithasol er mwyn sicrhau ymyrraeth gynnar i bobl sydd naill ai mewn trallod neu sydd ag anghenion cymorth ychwanegol. Ond mae'n amlwg fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae.