Iechyd Meddwl Menywod

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:05, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi eich llongyfarch ar eich rôl hefyd? Llongyfarchiadau. Mae adroddiad 'Cyflwr y Sector' Cymorth i Fenywod Cymru yn canolbwyntio ar y sefyllfa i fenywod yr effeithiwyd arnynt gan drais domestig. Maent yn catalogio amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn y sector hwn, ar gyfer menywod sy'n gwneud penderfyniadau am adael perthynas a'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac sy'n oroeswyr. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd y bydd ffocws parhaus ar iechyd meddwl menywod yr effeithiwyd arnynt gan drais domestig, gan gynnwys menywod o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig o ystyried bod hwn yn ymrwymiad hirdymor i wasanaethau i helpu adferiad dioddefwyr, staff a gwirfoddolwyr? Diolch yn fawr iawn.