Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch am y cwestiwn, Janet. Hoffwn eich sicrhau bod meddygon teulu'n parhau i ddarparu eu gwasanaethau, fel y gwnaethant drwy gydol y pandemig, gan gynnwys eu gwasanaethau dan y mesur iechyd meddwl. Fel y byddwch yn deall, bu'n rhaid newid dulliau o ddarparu gwasanaethau oherwydd y pandemig, ond mae pobl sydd angen cael eu gweld wyneb yn wyneb yn cael apwyntiadau wyneb yn wyneb. Wedi dweud hynny, gwn fod hyn yn rhywbeth rwyf fi a'r Gweinidog iechyd yn canolbwyntio'n fawr iawn arno. Byddwn yn cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain cyn bo hir a byddwn yn trafod hyn, oherwydd mae'n rhaid inni sicrhau nad oes neb yn syrthio drwy'r craciau oherwydd newidiadau i fodelau darparu gwasanaethau.