Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch, Weinidog, a chroeso i'ch rôl newydd. Mae'r menopos, wrth gwrs, yn gyflwr a fydd yn effeithio ar hanner poblogaeth Cymru ar ryw adeg yn eu bywydau, gyda symptomau'n cynnwys problemau cysgu, problemau gyda chanolbwyntio, problemau treulio a chymalau stiff a phoenus. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod saith o bob 10 menyw yn dweud bod y menopos yn effeithio'n sylweddol ar eu lles meddyliol, ac mae wyth o bob 10 menyw yn dweud bod sgil-effeithiau'r menopos wedi cael effaith negyddol sylweddol ar eu gallu i gyflawni eu swyddi'n effeithiol. Mae bron i 100 o glinigau menopos ledled y DU, ond dim ond tri o'r rhain sydd yng Nghymru. Weinidog, gyda'r menopos yn cael effaith mor sylweddol ar iechyd, llesiant, ac yn wir ar economi Cymru, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd a sicrhau bod yr holl fenywod y mae'r menopos yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi'n ddigonol?