Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae etholaeth Islwyn, a gynrychiolir gennyf, yn cynnwys cymunedau cryf iawn o ddynion a menywod dosbarth gweithiol yn bennaf, sy'n parhau i freuddwydio am well yfory, er nad yw ein heddiw erioed wedi bod yn fwy heriol. Felly, mae'r ffaith bod cewri ffilmiau Hollywood, Warner Brothers Pictures, wedi portreadu Islwyn a Chymru yn ddiweddar ar y sgrin fawr gyda'r ffilm wych ac eiconig Dream Horse, a agorodd yn y Coed-duon—ac sydd bellach i'w gweld ar draws y DU mewn sinemâu sydd ar agor—yn foment o lawenydd a chyffro. Ac mae'r portread cadarnhaol hwnnw o Gymru mewn ffilm, a stori Jan a Brian Vokes a'r syndicet a fagodd geffyl Cymreig ar randir yng Nghefn Fforest a aeth ymlaen i ennill y Grand National, wedi ennill adolygiadau gwych. Ac mae hefyd yn ychwanegu at ein dadeni ein hunain ym maes ffilm a theledu yng Nghymru. Felly, os nad ydych wedi'i gweld eto, mae'n stori gadarnhaol am ysbryd cymunedol cryf yn Islwyn, gyda chast o'r radd flaenaf, yn cynnwys Toni Collette, a enwebwyd ar gyfer Oscar, yng Nghymru, a'n Owen Teale ein hunain. Gwnaeth gwaith ar gynhyrchu'r ffilm ddefnydd o leoliadau ledled de Cymru, gan gynnwys Blaenafon.
Cymru—wel, rydym yn genedl hunanhyderus, ac rydym yn tyfu'n fyd-eang pan adroddwn mewn ffilm a theledu a chelfyddyd a llenyddiaeth, cerddoriaeth a theatr y straeon cadarnhaol hynny am ein pobl a'n cymunedau y mae Dream Horse yn eu portreadu mor effeithiol. Ac mae'r gallu hwnnw i ddefnyddio doniau creadigol o Gymru o flaen a thu ôl i'n camerâu mor hollbwysig, ac yn hanfodol i'n dyfodol diwylliannol ac economaidd. Mae Cymru, ein pobl, a'n hwyl i'w gweld yn glir yn Dream Horse, ac mae'n enghraifft o'n hysbryd a'n dyfodol rhyngwladol. Felly, mae Llywodraeth Cymru a'n hasiantaethau diwylliannol yn iawn i roi cefnogaeth hael ac i hyrwyddo cynyrchiadau a wneir yng Nghymru sy'n adrodd hanes Cymru i'r byd a hefyd yn hyrwyddo sectorau creadigol Cymru ar ôl COVID. Mae Dream Horse yn dangos yn rymus fod Cefn Fforest yn Islwyn yn fan lle mae breuddwydion yn dal i ddod yn wir, ac rwy'n annog pob Aelod i wylio'r ffilm gyffrous ac arloesol hon. Diolch.