Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 9 Mehefin 2021.
Gan ystyried bod y rheoliadau ar yr NVZs wedi cael eu rhuthro drwy'r Senedd ychydig cyn yr etholiad diwethaf, yn groes i'r addewid gwnaeth y Gweinidog, fel rydym ni wedi clywed yn barod, na fyddai hi yn cyflwyno rheoliadau yn ystod y pandemig, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ailgydio yn y drafodaeth bwysig hon yn gynnar yn y Senedd newydd. Nawr, pan oeddwn i'n ymgyrchu mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, un o'r pynciau oedd yn codi ei ben amlaf, yn arbennig gan ffermwyr, oedd y pwnc arbennig yma, achos roedden nhw'n poeni am effaith y rheoliadau arnyn nhw, fel ffermwyr, ar ddyfodol ffermydd teuluol, ac, o ganlyniad, efallai'n peryglu dyfodol cefn gwlad Cymru.
Nawr, rydym ni wedi clywed dro ar ôl tro gan yr undebau amaeth a phobl eraill dros y misoedd diwethaf pam nad yw'r rheoliadau, fel y maen nhw, yn dderbyniol. Er enghraifft, mae'r rheoliadau yn mynd yn groes i argymhellion arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan mai'r bwriad yw eu gweithredu dros Gymru gyfan, yn hytrach na phwysleisio ar yr 8 y cant o ardaloedd sy'n wynebu'r risg mwyaf. Yn ail, bydd y dull o ffermio drwy galendr yn debygol o greu canlyniadau anuniongyrchol niweidiol. Gallwch chi ddychmygu y byddai ffermwyr yn arllwys tunelli o'r slyri yma ychydig cyn y dyddiad cau ac yn syth ar ôl i'r ffenest agor. Yn drydydd, gyda thywydd anwadal Cymru, dyw ffermio drwy galendr ddim yn gwneud synnwyr. Gadewch i fi roi enghraifft ichi. Rwy'n byw lled cae wrth Afon Tywi a rhyw dair wythnos yn ôl, lle'r oedd hi'n bosibl i ffermwyr, yn ôl calendr y Llywodraeth, wasgaru slyri, roedd y caeau dan ddŵr oherwydd lifogydd. Felly, dyw gweithredu ar galendr jest ddim yn gweithio gyda'r tywydd sydd gyda ni yng Nghymru. Ac, yn olaf, mae yna ddiffyg cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth i helpu ffermwyr i ymdopi â'r rheoliadau newydd. Mae'r £11 miliwn sy'n cael ei gynnig yn gwbl, gwbl annigonol, a beth sy'n mynd i ddigwydd o ganlyniad yw bod llawer iawn o ffermwyr teuluol yn mynd i benderfynu gadael y diwydiant, a byddai effaith hynny ar gefn gwlad Cymru yn gwbl, gwbl drychinebus.
Ac fe glywon ni, yn ystod y ddadl cyn yr etholiad, y Gweinidog yn dadlau bod angen iddi dynnu sylw at bwysigrwydd alinio Cymru gyda gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol, ond y gwir amdani yw nad oes un o wledydd Prydain wedi penderfynu cyflwyno rheoliadau dros 100 y cant o'u tir. Yn Lloegr, maen nhw'n gweithredu ar ryw lefel o 55 y cant. Ond yn eironig erbyn hyn, mae'n debyg, mae Lloegr yn bwriadu symud i ffwrdd o'r cynllun. Felly ar yr union adeg y mae gwledydd eraill yn newid cyfeiriad, mae Llywodraeth Cymru yn mynd full pelt i'r cyfeiriad arall.