Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig ac am siarad yn erbyn y cynnig a gwelliant 2 y Llywodraeth.
A gaf fi yn gyntaf groesawu llefarydd newydd Plaid Cymru i'w swydd a'i longyfarch ar ei benodiad? Mae'n rhaid imi ddweud y gall arwain dadl am y tro cyntaf yn y Siambr fod yn brofiad nerfus iawn, ond os oedd ganddo unrhyw nerfau, yn sicr ni wnaeth eu dangos heddiw. Gallaf gofio'r ddadl gyntaf un a arweiniais yn y lle hwn: canodd y larwm tân a chafodd y lle cyfan ei wagio hanner ffordd drwodd. Nid wyf yn gwybod a ddigwyddodd hynny o ganlyniad i'r gwres roeddwn yn ei gynhyrchu yn y Siambr, neu a oedd rhywun yn gwneud drygioni y tu allan, ond fe'i gwnaeth yn fwy cofiadwy. Edrychaf ymlaen at ddadlau gyda chi ar draws y Siambr am flynyddoedd lawer i ddod.
Ddirprwy Lywydd, cafodd Plaid Cymru gyfle i ddefnyddio eu dadl gyntaf fel gwrthblaid yn y Senedd i edrych ar ystod eang o faterion sydd o bwys tyngedfennol i bobl Cymru, ond yn hytrach na dewis canolbwyntio ar y materion pwysig eraill hynny fel ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion, ein heconomi, yn lle hynny maent wedi penderfynu dechrau'r tymor seneddol newydd gyda chynnig a wrthodwyd yn llwyr yn etholiadau diweddar y Senedd, etholiad lle cyflwynodd Plaid Cymru achos i bobl Cymru dros fwy o bwerau a refferendwm arall gyda mwy o anhrefn cyfansoddiadol, ac eto refferendwm lle'r aeth eu cyfran hwy o'r bleidlais i lawr, yn wahanol i'n cyfran ni o'r bleidlais. Aethant tuag yn ôl. Fe wnaethant golli tir. Ni wnaethant ennill unrhyw dir o ganlyniad i'r neges benodol honno a gyflwynwyd ganddynt i bobl Cymru, a hynny oherwydd bod pobl Cymru wedi gwrthod bogailsyllu cyfansoddiadol ac anhrefn cyfansoddiadol ar 6 Mai. Ac oherwydd hynny hefyd, rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn y prynhawn yma yn y Siambr i wrthod chwarae pŵer o'r fath hefyd.
Dyna pam rydym yn ei gwneud yn gwbl glir yn ein gwelliant ein bod yn credu nad oes mandad o gwbl i ddatganoli pwerau sylweddol pellach i'r Senedd hon. Yn wahanol i lefarydd Plaid Cymru, credwn fod y pandemig a Brexit yn dangos yn glir iawn pam nad oes angen y pwerau ychwanegol hynny arnom oherwydd, Ddirprwy Lywydd, yr arf mwyaf sydd gennym i ailadeiladu Cymru well yw'r ffaith bod Cymru yn rhan annatod o'r Deyrnas Unedig. Nid oes ond angen inni edrych ar y 18 mis diwethaf dros y pandemig i weld sut y mae Cymru'n elwa o'r setliad datganoli presennol. Rydym wedi cael personél o luoedd arfog y DU yn darparu brechlynnau, yn gyrru ambiwlansys ar hyd a lled Cymru, pan oedd angen cymorth ychwanegol ar y GIG wrth iddo wynebu'r pwysau hwnnw. Maent hefyd wedi dod â chyfarpar diogelu personol i mewn ar awyrennau o leoedd fel y dwyrain pell i'r Deyrnas Unedig, pan oedd ein GIG ar ei gliniau ac angen y gefnogaeth honno fwyaf.
Prosesau caffael Llywodraeth y DU a buddsoddiad mewn gwaith ymchwil ar y brechlyn COVID sy'n gyfrifol am un o'r rhaglenni brechu gorau yn y byd. Heb y gefnogaeth honno, ni fyddai Cymru yn arwain yn fyd-eang ar gyflwyno'r brechlyn fel y mae heddiw. Byddai ein rhaglen ar ei hôl hi mewn gwirionedd, gan beryglu bywydau a pheryglu ein hadferiad economaidd. Drwy fod yn rhan o'r DU, gallodd Cymru ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl drwy gydol y pandemig gyda'r cynllun ffyrlo, y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, benthyciadau adfer, arian i ddarparu'r gronfa cadernid economaidd yma yng Nghymru, a chyllid i gefnogi'r trydydd sector, y celfyddydau a'n sector diwylliannol. Ac ar ben hyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wrth gwrs wedi buddsoddi arian ychwanegol yn ein system les i gynyddu taliadau i'r bobl sydd ei hangen.
Mae cynnig Plaid Cymru hefyd yn honni bod Llywodraeth y DU yn fygythiad i ddatganoli, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwirionedd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau yn y Senedd heddiw mai Llywodraeth Geidwadol y DU a gyflwynodd y refferendwm yn ôl yn 2016 a arweiniodd at drosglwyddo pwerau pellach i'r Senedd, oherwydd yn wahanol i bleidiau eraill yn y Siambr hon a geisiodd rwystro Brexit, rydym yn parchu canlyniadau refferenda. Gwyddom mai ewyllys sefydlog pobl Cymru yw cael Senedd yma sydd â'r set o bwerau sydd gennym ar hyn o bryd. Ni wnaeth Llywodraeth y DU gipio pwerau ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ychwaith. Yn wir, mae Cymru wedi cael dwsinau o bwerau a chyfrifoldebau newydd o ganlyniad i adael yr UE. Roedd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn cadarnhau pwerau mewn gwirionedd ac yn rhoi cyfrifoldebau i'r Senedd mewn tua 70 o feysydd polisi a ddaeth yma yn uniongyrchol o Frwsel. Hynny yw, ni fyddaf byth bythoedd yn gwybod sut y gallwch ddweud bod hynny'n gipio pwerau.
Felly, yn hytrach na chwyno am y pwerau nad ydym yn meddu arnynt, gadewch inni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym i wella bywydau pobl Cymru, i ddatrys y problemau yn ein gwasanaeth iechyd, yn ein hysgolion, ac yn ein heconomi, fel y gall Cymru fod yn genedl lewyrchus fel y mae pawb ohonom angen iddi fod.