Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 9 Mehefin 2021.
Wrth inni'n araf ymlwybro i gyfnod ôl-COVID, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio'r cyfle yma i greu Cymru well. Fedrwn ni ddim mynd nôl i sut oedd pethau. Allan o ddinistr yr ail ryfel byd, fe wnaeth Llywodraeth Lafur ddangos y ffordd—gwnaethon nhw weddnewid Prydain er gwell. Rhaid i ni heddiw yng Nghymru meddwl yn radical unwaith eto, ond y tro yma, yng Nghymru gwnaiff hynny ddigwydd, nid ym Mhrydain.