6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:47, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Adsefydlu priodol, siarter dioddefwyr effeithiol a thosturiol a gwaith ataliol i gael gwared ar achosion sylfaenol troseddu. Dyna sydd ei angen ar ein cymunedau. Yn anffodus, bydd yr holl ddyheadau egwyddorol hyn yn parhau i fod y tu hwnt i'n rheolaeth hyd nes bod gennym fodd o greu cyfiawnder Cymreig yma yng Nghymru. Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, sy'n mynd ar ei daith ddeddfwriaethol drwy San Steffan ar hyn o bryd, yn enghraifft berffaith o'r rheswm pam y mae angen inni ddatganoli cyfiawnder yma yng Nghymru. Mae'r llu o newidiadau sylweddol yn y Bil, gan gynnwys pwerau newydd i gyfyngu ar brotest ac ehangu stopio a chwilio, yn sicr o waethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ein system cyfiawnder troseddol. Gwyddom i gyd y bydd mesurau stopio a chwilio'r Bil yn effeithio'n anghymesur ar bobl dduon.