Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Dyma ein cyfle cyntaf ers etholiadau'r Senedd i ystyried rhai o'r heriau cyfansoddiadol difrifol sy'n wynebu Cymru a gweddill y DU, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i Blaid Cymru am ddewis cyflwyno'r cynnig hwn fel un o'u dadleuon cyntaf yn y chweched Senedd hon. Mae'n debygol mai dyma'r gyntaf o lawer o ddadleuon o'r fath. Yn y Senedd ddiwethaf, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cofiaf gyflwyno adroddiad ar ddiwygio cyfansoddiadol, a dechreuais fy nghyflwyniad drwy ddweud ei fod, mae'n debyg, yn un o'r adroddiadau mwyaf diflas y byddai'n rhaid i'r Aelodau ei ddarllen, ond i'r un graddau, byddai'n un o'r pwysicaf, ac nid wyf wedi newid fy marn. Felly, mae'r rhai sy'n dweud nad yw'r materion cyfansoddiadol hyn yn bwysig yn sylfaenol anghywir, gan eu bod yn mynd at wraidd ein democratiaeth—maent yn diffinio'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud, i ba raddau y gallwn wneud penderfyniadau ar y materion sy'n bwysig i bobl Cymru, ein gallu i wella ffyniant a gwneud penderfyniadau a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru, a dyna pam ein bod ni yma a dyna pam y mae'r Senedd hon yng Nghymru yn bodoli ac mor bwysig i'n dyfodol ac yn wir i ddyfodol y Deyrnas Unedig.
Nawr, er na fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ar y ffurf y'i cyflwynwyd, mae'n amlwg fod llawer o dir cyffredin ar y mandad ar gyfer diwygio ac ar y meysydd y cytunwn ers tro byd fod angen eu datganoli os ydym am allu cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud bod gwelliant y Ceidwadwyr yn siomedig tu hwnt; yn anffodus, mae'n arwydd o blaid sy'n methu wynebu'r gwir. Yn fy marn i, ceir mandad clir a diymwad i ddiwygio. Ni allai'r mandad ar gyfer y Llywodraeth hon fod yn gliriach: fel y nododd ein maniffesto, byddwn yn gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym am feithrin sgwrs gyhoeddus genedlaethol yng Nghymru am ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn annibynnol sefydlog i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Nawr, i ddychwelyd at welliant y Ceidwadwyr, ar bwynt 2, mae'n iawn dweud bod gwaith rhynglywodraethol adeiladol wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd ar gyflawni'r rhaglen fframweithiau cyffredin ar sail gydweithredol. Fodd bynnag, ni allwn sôn am fframweithiau heb dynnu sylw at yr ymosodiad ar ddatganoli sydd wedi'i gynnwys yn rhai o ddarpariaethau Deddf marchnad fewnol y DU.
Ar bwynt 3 yng ngwelliant y Ceidwadwyr, rydym yn cytuno, er enghraifft, fod gwaith ar y rhaglen frechu wedi dangos effeithiolrwydd cydweithio ar draws y pedair gwlad. Yn anffodus, yn rhy aml, cyflawnwyd hyn er gwaethaf Llywodraeth y DU yn hytrach nag o'i herwydd. Y mis diwethaf, traddododd Syr David Lidington, un o Weinidogion Swyddfa'r Cabinet yn Llywodraeth Theresa May, ddarlith ar yr undeb, lle dywedodd ei bod
'mewn mwy o berygl nag ar unrhyw adeg yn ystod fy oes'.
Credaf y byddai'r wrthblaid yn gwneud yn dda hefyd i wrando ar gyngor eu cyn-Aelod David Melding, a ysgrifennodd yn ddiweddar y bydd y Ceidwadwyr yn ennill etholiad yng Nghymru pan fyddant yn hyderus ynglŷn â sut y gallant ddefnyddio'r sefydliadau datganoledig yn greadigol, a bod gan y rhan fwyaf o wladwriaethau rhyngwladol democrataidd strwythur datganoledig neu ffederal. Ac eto, mae gennym Lywodraeth y DU yn awr sydd wedi penderfynu yn wyneb y posibilrwydd o chwalu'r DU, yn hytrach na dewis croesawu newid a cheisio consensws gyda chenhedloedd y DU a rhanbarthau Lloegr, mai'r ffordd ymlaen yw canoli grym a thanseilio datganoli drwy fynd ati'n fwriadol i geisio cyflawni drwy gamdrafod ariannol yr hyn na allant ei gyflawni drwy'r blwch pleidleisio. Mae gennym arweinwyr yn Llywodraeth Geidwadol y DU na all hyd yn oed gyfeirio at 'Lywodraeth Cymru', gan ddewis cyfeirio bob amser yn lle hynny at 'weinyddiaeth ddatganoledig'. Ac rydym yn clywed yn awr nad yw Gweinidogion bellach i fod i gyfeirio at wledydd y Deyrnas Unedig, ond yn hytrach i gyfeirio at y DU fel gwlad. Ddirprwy Lywydd, bydd y strategaeth hon yn methu. Os yw'r Llywodraeth Geidwadol yn credu y gall rwbio Cymru a datganoli allan o fodolaeth fel hyn, byddant yn methu, oherwydd ni all y DU ond goroesi os yw'n gymdeithas go iawn o genhedloedd sofran yn cydweithio gyda phwrpas cyffredin. Nid yn San Steffan y mae sofraniaeth, nac ychwaith yn Holyrood nac yma yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae sofraniaeth yng Nghymru yn bodoli lle mae bob amser wedi bod, gyda phobl Cymru, a mater iddynt hwy bob amser yw sut y maent yn dewis arfer y sofraniaeth honno.
Nawr, bydd yr Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo'r ddadl ar ddiwygio cyfansoddiadol. Mae bron i ddegawd ers inni alw gyntaf am gonfensiwn cyfansoddiadol ar ddyfodol y DU, ond mae'r angen i drafod a dadlau am y materion hyn bellach yn fwy nag erioed. Yn fwyaf arbennig, rydym am gynnal sgwrs, ymgysylltiad, â phobl Cymru, i ddod o hyd i gonsensws ymysg dinasyddion a chymdeithas ddinesig ynglŷn â'r ffordd ymlaen ar gyfer datganoli a'r cyfansoddiad. Felly, ar y sail hon byddwn yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad maniffesto i sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Byddwn hefyd yn cefnogi gwaith comisiwn cyfansoddiadol y DU gyfan a sefydlir gan Blaid Lafur y DU. Ein nod yw gweithio ar draws y gwledydd a'r pleidiau gwleidyddol i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwygio ein cyfansoddiad yn fwy trylwyr. Rydym wrthi'n llunio ein cynlluniau ar gyfer ein comisiwn, a gobeithiaf wneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rwy'n glir iawn y bydd ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru a'r gymdeithas ddinesig yn rhan ganolog o'n dull o weithredu, ac yn y cyfamser, byddwn yn cyhoeddi fersiwn newydd ac wedi'i diweddaru o 'Diwygio ein Hundeb' yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd yr Aelodau'n cofio i ni gyhoeddi hwn yn 2019, yn seiliedig ar tua 20 o gynigion ar gyfer llywodraethu'r DU yn y dyfodol. Bydd ein fersiwn newydd yn ystyried datblygiadau ers 2019, gan ystyried goblygiadau ymagwedd Llywodraeth y DU ers mis Rhagfyr 2019 yn ogystal â safbwyntiau pellach ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac academaidd am yr angen i ddiwygio.
Mae'r achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder wedi'i wneud yn gryf gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ond credaf nad yw'n ddefnyddiol cyflwyno rhestr siopa o bwerau pellach rydym am eu cael heb egwyddor arweiniol a heb fynd i'r afael â'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen i'w gweithredu a'u hariannu. Dyna oedd 'Diwygio ein Hundeb' yn ei gynnig—gweledigaeth o sut y gallai gwir bartneriaeth weithio rhwng y pedair gwlad yn cymryd rhan yn wirfoddol, gweledigaeth sy'n seiliedig ar barch cydradd, sgwrs reolaidd, ariannu teg a setiau cydlynol o bwerau, gan ddefnyddio egwyddor sybsidiaredd. Nawr, pan fyddwn yn diweddaru'r ddogfen honno, rwy'n gobeithio y bydd yn helpu i hybu sgwrs genedlaethol am ddyfodol y wlad hon. Yn anad dim, mae arnom angen ymgysylltiad gwirioneddol â phobl Cymru i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn yr hyn a fydd yn sgwrs feirniadol a radical am ddyfodol Cymru a'r DU.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwrthod ymgais y Ceidwadwyr i awgrymu nad oes dim o'i le ar y status quo cyfansoddiadol, ac er ein bod yn cytuno â rhai o'r teimladau sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, rydym am roi ein bys ar y sgyrsiau mwy sydd eu hangen yn awr am ddyfodol datganoli a'r cyfansoddiad, a gwneud yn siŵr bod barn pobl Cymru yn ganolog yn y sgyrsiau hyn. Dyna fyrdwn sylfaenol ein gwelliant. Diolch, Ddirprwy Lywydd.