Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 9 Mehefin 2021.
Nawr, nid yw pryder am yr hinsawdd neu eco-bryder yn ddiagnosis clinigol eto, ond mae'n derm cydnabyddedig sy'n cael ei ddefnyddio i siarad am emosiynau negyddol sy'n gysylltiedig â'r canfyddiad o newid hinsawdd. Gall hyn amlygu ei hun drwy byliau o banig, methu cysgu a meddwl obsesiynol. Gall waethygu anhwylderau gorbryder ac iselder eraill. Ond mae ymchwil yn brin ac mae ei hangen yn fawr yn y maes hwn, oherwydd mae'n effeithio'n fwyaf difrifol ar bobl ifanc—y genhedlaeth a fydd yn ysgwyddo baich yr argyfwng hwn. Ac i lawer, mae fel rhyw fath o alar.
Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr i fynd i'r afael â hyn? Hoffwn weld gweithredu mewn rhai meysydd. Yn gyntaf, hoffwn weld cyllid a chefnogaeth ar gyfer rhaglenni sy'n canolbwyntio ar weithredu uniongyrchol a chyfunol yn erbyn newid hinsawdd, oherwydd mae gweithredu'n rhagweithiol yn caniatáu i bobl ddod yn gyfryngau newid a lleihau'r dreth emosiynol a'r ymdeimlad o fod yn ddi-rym. Gall helpu pobl i gyflawni newidiadau pendant yn eu cymunedau eu hunain, o blannu coed i gasglu sbwriel, ac o lanhau afonydd i ddarparu asedau cymunedol fel mannau gwyrdd y gellir eu rheoli a'u defnyddio ar gyfer rhandiroedd a chynlluniau rhannu bwyd. Mae'r mathau hyn o brosiectau yn creu manteision i'r gymuned ac i'r amgylchedd. Ond mae astudiaethau hefyd yn dangos bod gweithredu ar y cyd ar newid hinsawdd yn lleihau teimladau o unigrwydd; mae'n caniatáu i bobl rannu'r baich, mae'n cyfeirio pobl tuag at ymdeimlad o gydsafiad, undod a gobaith.
Dylem gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau am yr amgylchedd drwy gyllidebu cyfranogol a chynulliadau dinasyddion sy'n rhoi rhan i bobl ei chwarae a syniad o'r hyn sy'n cael ei wneud, ond hoffwn hefyd weld newidiadau yn y cwricwlwm. Yn y Senedd ddiwethaf, cyflwynodd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd welliannau i Fil y cwricwlwm y bu'n gweithio arnynt gydag ymgyrch Dysgu'r Dyfodol. Roeddent yn ymgais i sicrhau bod addysg gadarn ar newid hinsawdd yn y cwricwlwm newydd, ac nid mewn gwyddoniaeth a mathemateg yn unig, ond yn y gwyddorau cymdeithasol, dinasyddiaeth, y celfyddydau perfformio, llenyddiaeth, ieithoedd, iechyd a lles.
Nawr, rwyf am barhau i bwyso am y newidiadau hyn, ac mae prosiectau cyffrous iawn eisoes ar y gweill i geisio mynd i'r afael â'r ail-fframio a grybwyllais—prosiectau fel Cynnal Cymru, sydd wedi ffurfio partneriaeth â'r Prosiect Llythrennedd Carbon, ac maent yn ceisio mynd i'r afael â heriau'r pwnc, sy'n ymddangos yn llethol. Mae eu hyfforddwr, Rhodri Thomas, wedi ysgrifennu am hyn fel methodoleg ddysgu sy'n caniatáu i bobl ymgysylltu â realiti enfawr, cymhleth a brawychus newid hinsawdd, a rhannu'r her yn ymatebion personol a sefydliadol y gellir eu rheoli. Mae'n dweud bod hyn yn dysgu ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon deuocsid gweithgareddau bob dydd, ac yn hollbwysig, y gallu i leihau allyriadau fel unigolion, cymunedau a sefydliadau.
At hynny, gwn fod Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu fy angerdd ynglŷn â'r maes hwn, a chyflwynodd ei maniffesto ym mis Mai syniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc ym mhroses y Llywodraeth ar gyfer gwneud penderfyniadau amgylcheddol drwy baneli dinasyddion a chynllun eco-ysgolion sy'n cael busnesau lleol i gydweithio â dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae ei swyddfa hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ymgyrchu sy'n caniatáu i blant ysgol drefnu eu hymgyrchoedd eu hunain ar gyfer newid.
Ddirprwy Lywydd, mae angen cyffredinol inni rymuso plant a phobl ifanc, yn ogystal â'r boblogaeth yn gyffredinol i ddeall maint y broblem, ond i ddysgu amdani a'i chysyniadu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud—i gysylltu siarad am effeithiau newid hinsawdd gyda'r camau pendant y gallant hwy ac eraill eu defnyddio i fynd i'r afael â newid hinsawdd a dirywiad byd natur. Os ydym o ddifrif ynghylch sicrhau adferiad gwyrdd yng Nghymru, rhaid inni ddechrau gweithredu ar y cyd ac yn gadarnhaol i sicrhau y gall pawb chwarae eu rhan, fod gan bawb gyfran yn yr hyn a wnawn sy'n ddiriaethol, ac yn lle pryder, fod yna allu i weithredu.
Weinidog, rwyf am ddefnyddio'r llwyfan sydd gennyf fel llefarydd fy mhlaid ar newid hinsawdd i bwyso am y newidiadau hyn, i ddod o hyd i ffyrdd o rymuso pobl ifanc a phobl o bob oed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac i ddadlau dros fwy o gymorth i athrawon a myfyrwyr ar sut i gydnabod ac i ymdrin â phryder ynglŷn â'r hinsawdd, oherwydd yr her hon yw'r her fwyaf y byddwn yn ei hwynebu byth.
Ddirprwy Lywydd, dechreuais yr araith hon drwy sôn am yr anochel. Yr hyn sy'n hanfodol inni ei wneud yw sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn credu bod y sefyllfa'n anorchfygol. Gobeithio y gall y ddadl hon ddechrau sgyrsiau, y gallwn helpu'r weinyddiaeth newydd hon i ganolbwyntio ar gynnwys dinasyddion yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd, oherwydd gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pobl eraill i'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.