Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 15 Mehefin 2021.
Mae recriwtio doctoriaid yn parhau i fod yn broblem yn ardal y gogledd, fel rydych chi'n gwybod, efo gormod o lawer o arian yn mynd ar gyflogi locyms a gormod o lawer o swyddi gwag mewn meddygfeydd. Dwi'n falch iawn eich bod chi yn cefnogi galwadau cyson Plaid Cymru am ysgol feddygol ym Mangor, ac rydych chi newydd gadarnhau hynny rŵan eto, a bod hyn yn cael ei weithredu arno fo erbyn hyn. Felly, wnewch chi gadarnhau y gallai'r ysgol feddygol agor yn y flwyddyn 2025, ymhen pedair blynedd, sef yr hyn mae'r bwrdd iechyd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar?