Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Mehefin 2021.
Fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai rhai o'r ffyrdd gorau o wella diogelwch ar y ffyrdd yw gostwng cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd adeiledig, creu ardaloedd di-draffig a rhoi active travel yn gyntaf ar frig y pyramid teithio? Ond sut allwn ni sicrhau ein bod ni'n perswadio pobl i ddod gyda ni ar y siwrnai hon i ddyfodol tecach, gwyrddach a gwell? Sut ydyn ni'n ei gwneud hi'n haws i bobl wneud y dewisiadau doeth drosom ni ein hunain, i'n cymunedau, ac i'r blaned hefyd?