Lefelau'r Dreth Gyngor

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 15 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, £1,731 yw'r dreth gyngor band D gyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2021-22. Rhoddir yr hyblygrwydd i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru bennu eu cyllidebau blynyddol a lefelau'r dreth gyngor er mwyn adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol. Yna, maen nhw'n atebol i'w trigolion am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud.