Diogelwch ar y Ffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:12, 15 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n monitro data fel gwrthdrawiadau anafiadau personol, geometreg ffyrdd a defnydd gan gerddwyr a beicwyr fel mater o drefn i hysbysu'r angen am welliannau diogelwch ar y ffyrdd. Rydym ni hefyd yn bwrw ymlaen â mentrau i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig a mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd.