Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Mehefin 2021.
A gaf i ddiolch i Dr Hussain am y cwestiwn yna, Llywydd? Er gwaethaf amrywiadau, mae marwolaethau yn ymwneud ag alcohol yn benodol wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ffigurau rhagarweiniol yn awgrymu cynnydd i'r niferoedd yn 2020, ond mae angen mwy o ddata i gadarnhau ac asesu hyn. Gallai'r rhesymau am unrhyw gynnydd fod yn gymhleth a bydd angen eu dadansoddi ymhellach.