Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu dau ddatganiad at fusnes yr wythnos hon. Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ynghylch y rhaglen lywodraethu, ac yfory, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ynghylch newid hinsawdd. Yn olaf, mae'r ddadl fer yfory wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.