2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:50, 15 Mehefin 2021

Mae yna bedair blynedd nawr ers i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ddiwethaf gynnal ymchwiliad yn edrych ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru—perinatal mental health. Nawr, ymhlith yr argymhellion a dderbyniwyd gan y Llywodraeth oedd bod y Llywodraeth, yng ngoleuni'r ffaith nad yw'r uned mamau a babanod sydd wedi ei leoli yn ne Cymru yn addas i famau a theuluoedd yn y canolbarth a'r gogledd, yn ymgysylltu fel mater o frys gyda'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yn y gogledd-ddwyrain a allai, wrth gwrs, wasanaethu poblogaethau bob ochr i'r ffin. Rŷn ni yn y gogledd yn dal i aros am ddarpariaeth o'r math yna.

Ac fe fyddwch chi efallai wedi gweld, dwi'n siŵr, y sylw a roddwyd yr wythnos yma i achos Nia Foulkes o Bentrecelyn ger Rhuthun a'i phrofiad hi o orfod mynd i Fanceinion am wasanaethau iechyd meddwl wedi genedigaeth ei mab hi. Nid yn unig oedd y profiad o fod mor bell o'i chartref a'i phlentyn yn hunllefus iddi hi a'i theulu, ond mi oedd yr holl ofal a'r therapi a gafodd Nia, wrth gwrs, drwy gyfrwng y Saesneg ac roedd hi'n teimlo na allai hi fynegi ei hun yn iawn, yn enwedig yn y cyflwr yr oedd hi ynddo fe. Nawr, mae Nia wedi esbonio sut mae hi'n credu y byddai ei hadferiad hi wedi bod yn wahanol ac yn llawer cyflymach pe bai uned ar gael yn nes at gartref a oedd yn cynnig gwasanaethau iddi hi yn ei mamiaith. Dwi'n siŵr y gwnewch chi ymuno â fi i ddiolch i Nia am ei dewrder wrth siarad allan am y profiad anodd gafodd hi. A gaf fi ofyn, felly, am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd i ddiweddaru'r Senedd ar ba fwriad sydd gan y Llywodraeth yma i ailymweld ag argymhelliad yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ailystyried opsiynau ar gyfer y gwasanaethau ac i edrych o'r newydd wedyn, wrth gwrs, ar sefydlu uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng ngogledd Cymru?