Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch, Luke Fletcher, am hynny. Yn sicr, rwy'n cytuno â chi y dylai pob agwedd ar drafnidiaeth gyhoeddus—fel y dywedwch chi, nid dim ond y bysiau neu'r trenau, ond y seilwaith o'u cwmpas—fod yn hygyrch. Nid wyf yn glir a oes darn o waith yn cael ei wneud i ymchwilio i hynny, ond yn sicr, byddaf yn sôn amdano wrth y Gweinidog sy'n gyfrifol.