Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Mehefin 2021.
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad brys gan y Llywodraeth o ran eu dadansoddiad o'r cytundeb masnach yr ymddengys ei bod wedi'i gytuno neithiwr rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia? Mae'n ymddangos yn yr adroddiadau, ac yn sicr ym marn y ddau undeb ffermio yng Nghymru, fod hwn yn gyfle i Lywodraeth y DU aberthu amaethyddiaeth yng Nghymru, gyda'r effaith gysylltiedig ar gymunedau gwledig, ein hiaith a'n diwylliant, ar sail elw tymor byr i roddwyr Ceidwadol yn Ninas Llundain. Mae aberthu ein cymunedau gwledig ar sail y prosbectws hwnnw, yn fy marn i, yn hollol warthus. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallem ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar ddadansoddiad y Llywodraeth o effaith bosibl y cytundeb masnach hwnnw.
A gaf i hefyd geisio gwahodd y Llywodraeth a Swyddfa'r Llywydd i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gennym ni'r ddeddfwriaeth i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ledled Cymru? Ni fydd yr Aelodau'n synnu, i rai ohonom, fod y golygfeydd nos Sadwrn yn Copenhagen yn arbennig o ofidus. Yn sicr, roedd fy atgof i o'r hyn a ddigwyddodd i mi yn debyg iawn i'r hyn a ddigwyddodd i Christian Eriksen, ac rwy'n credu ein bod yn cydymdeimlo'n fawr ag ef yn ei brofiad, ac â'i deulu, a byddem i gyd yn dymuno gwellhad da iawn iddo.
Ond achubwyd ei fywyd, ac mae bywydau eraill yn cael eu hachub, a chafodd fy mywyd i ei achub gan bobl a oedd yn mynd heibio a phobl oedd â'r offer a'r sgiliau sydd eu hangen i achub y bywydau hynny. Nid yw'n digwydd drwy ddamwain, a gall y Llywodraeth wneud i hynny ddigwydd. Mae gan y Llywodraeth y pŵer i wneud hynny. Cafodd fy mywyd i ei achub oherwydd roedd rhywun yn fy ymyl i yn gallu cyflawni adfywio cardio-pwlmonaidd. Roeddem wedi symud i'r cyfeiriad o sicrhau bod hyfforddiant ar gael ar gyfer CPR yn y Senedd ddiwethaf, ac mae'r gwaith a arweiniodd Kirsty Williams ar hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn iddi amdano. Ond nid oes digon o ddiffibrilwyr o hyd. Rwy'n gwybod bod llawer o elusennau a llawer o bobl yn gweithio'n eithriadol o galed ar hyn, ond oni bai fod fframwaith statudol yn sicrhau bod diffibrilwyr ym mhob un o'n cymunedau ni—diffibrilwyr sy'n gweithio ac yn cael eu cynnal a lle mae mynediad cyhoeddus iddynt—bydd gormod o fywydau'n dal i gael eu colli y byddai wedi bod modd eu hachub.
Rwy'n gwybod bod cyfle i gael datganiad deddfwriaethol gan Aelod yn ddiweddarach y mis hwn, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw'r lle a'r amser a'r adnoddau gan y Llywodraeth a Swyddfa'r Llywydd i sicrhau y gall y Senedd hon weithredu ar sail yr hyn a wyddom, yr hyn a ddeallwn, y golygfeydd gwarthus a welsom nos Sadwrn, a phrofiad llawer ohonom, yn enwedig y rheini yn y Siambr hon sydd wedi colli anwyliaid gan nad yw'r cyfleusterau a'r seilwaith ar waith.