Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 15 Mehefin 2021.
A yw'r Trefnydd yn cytuno â mi ei bod yn rhyfedd iawn, a dweud y lleiaf, fod cyngor Llafur Caerdydd yn defnyddio cyllid aer glân gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei wario ar rywbeth a fydd, mewn gwirionedd, yn cynyddu llygredd ac yn effeithio ar ansawdd aer trigolion a'r 45 miliwn o ymwelwyr â Chaerdydd bob blwyddyn? A gawn ni ddatganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, o ran eu safbwynt ar ailagor Stryd y Castell, ac ar awdurdodau lleol yn dileu mesurau sydd mewn gwirionedd yn lleihau lefelau llygredd aer? Diolch.