Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Nid yw'r strategaeth ryngwladol yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, a'r rheswm am hynny yw ei fod yn ddarn o waith sy'n parhau ers tymor diwethaf y Senedd. Fe benderfynais wrth ffurfio'r Llywodraeth newydd mai swyddfa'r Prif Weinidog fyddai'n gyfrifol am y strategaeth ryngwladol, am lawer o'r rhesymau a nodwyd gan Peter Fox.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, Llywydd, fe fyddaf i'n cwrdd â llysgenhadon o wahanol rannau o'r byd, bob un ohonynt â pherthynas fasnachu wahanol iawn â Chymru. Fe fydd y llysgennad newydd o Wlad Pwyl yn ymweld â Chymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ac fe fydd y llysgennad newydd o Japan yn ymweld â Chymru. Yma, mae fy marn i ychydig yn wahanol i'r Aelod, oherwydd o ran mewnfuddsoddiad, rydym ni wedi sicrhau mewnfuddsoddiad o Japan ers dros 40 mlynedd, ac nid dyma'r math o fewnfuddsoddi sydd weithiau'n cael ei feirniadu gan eraill, yn briodol felly—buddsoddiad sy'n dod, yn cymryd yr arian ac yn mynd cyn gynted ag y bydd yr arian wedi dod i ben. Mae buddsoddiad gan gwmnïau o Japan yng Nghymru yn fuddsoddiad hirdymor, ac rydym ni'n dal i lwyddo i ddenu'r buddsoddiad hwnnw i Gymru.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn wir yn edrych ar Gymru fel chwaraewr byd-eang, yn lle croesawgar, sy'n edrych tuag allan, lle mae pobl o rannau eraill o'r byd yn awyddus i ddod i wneud eu dyfodol nhw a buddsoddi yn y pethau gwych sydd gennym i'w cynnig, nid yn unig o ran cyfleusterau a seilwaith, ond yn arbennig y gweithlu sydd gennym i'w gynnig yma yng Nghymru, gyda'r sgiliau a'r ymrwymiad a gynigir i laweroedd o gwmnïau o wahanol rannau o'r byd.