Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 15 Mehefin 2021.
Felly, o bosib, fe ofynnaf i rywbeth tebyg mewn ffordd ychydig yn wahanol. Fel rhestr o bethau digon dilys a chlodwiw, mae yna lawer iawn dwi'n cyd-fynd â fo yn sicr yn y rhaglen yma. Mae yna lawer o syniadau dwi'n eu hadnabod o faniffesto diweddar Plaid Cymru hyd yn oed, ac mae'r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi cael eu hamlinellu yn rhai dwi'n eu rhannu: egwyddorion o gydweithio a chydsefyll nid cystadlu; cenedl yn seiliedig ar chwarae teg, lle mae pawb yn cyflawni eu potensial; darparu gwasanaethau cyhoeddus er budd y cyhoedd, nid er elw, ac yn y blaen; yn ogystal â chreu cenedl lle mae'r Gymraeg, er enghraifft, wrth ei chalon hi ac wrth galon bywyd cyhoeddus.
Ond y cwestiwn sylfaenol dwi'n meddwl sydd gen i yn fan hyn ydy: o edrych ar hyn, beth fydd yn wahanol ymhen pum mlynedd, hyd yn oed os ydy'r Llywodraeth yn llwyddo i weithredu ar lawer o'r addewidion? Mi glywon ni'r Prif Weinidog yn cyfeirio at y rhaglen fel un uchelgeisiol a radical. Maen nhw'n eiriau hawdd iawn i'w dweud, wrth gwrs, ond mae arnaf i ofn nad ydw i wedi fy argyhoeddi mai'r rhaglen lywodraethu yma fydd yn cynnig y cyfeiriad newydd sydd ei angen ar Gymru, yn cynnig y trawsnewid sydd ei angen arnom ni er mwyn llunio dyfodol mwy cyfiawn, mwy ffyniannus ac ati. Pan ddaw hi at y pandemig, mae Cymru wedi dangos gwerth pwyll dwi'n meddwl. Ond siawns, pan ydyn ni'n sôn am y gwaith o adeiladu cenedl, fod yn rhaid symud ychydig yn gyflymach; bod yn glyfrach, ie, ond gweithio'n galetach hefyd ac anelu yn uwch.
Dwi'n derbyn mai gosod fframwaith ydy llawer o hyn. Mi fyddwn ni'n trio dylanwadu ar gryfhau'r fframwaith hwnnw, ac o bosib gallai'r Prif Weinidog wneud sylw, sydd ddim yn y rhaglen yma, ynglŷn â diwygiadau i'r Senedd yma, achos o fewn gweithgareddau'r Senedd yma rydyn ni eisiau dylanwadu ar y fframwaith hwnnw, ond mae yna gwestiwn ynglŷn â fframwaith i beth. Mae yna ddiffyg targedau mewn meysydd eithaf sylfaenol yma. Felly, sut fyddwn ni'n mesur llwyddiant?
Dwi wedi cyhuddo Llywodraethau Llafur yn y gorffennol o fod yn rhy managerial, o fodloni ar weinyddu Cymru yn hytrach na chynnig gweledigaeth. Sut mae'r rhaglen yma yn cynrychioli newid gêr o reoli Cymru i weddnewid Cymru? Pa obaith sydd yna o ran gweddnewid bywydau'r 67,000 o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol, y 70,000 sydd yn byw mewn tlodi ond sydd ddim yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim? Ble mae'r deffroad yn y sylweddoliad o sgêl yr argyfwng o ran impact ail gartrefi ar dai yng nghefn gwlad? Ble mae'r targedu statudol ar warchod bioamrywiaeth? Mae yna gwestiynau sylfaenol iawn yma, ac mi gawn ni gyfle yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, wrth gwrs, i fynd at y rheini mewn manylder.