Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i ond eisiau egluro er mwyn y cofnod fy muddiant yn y cwestiwn yr oeddwn i wedi'i ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach. Cyfeiriais i at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fy nghwestiwn heb egluro fy mod yn gynghorydd sy'n eistedd ar gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny'n glir nawr.