9. Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:41, 15 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Rwy'n siŵr bod pob Aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r uchelgais i ddod o hyd i ffordd o leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau, ac felly mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gydweithio i ddod o hyd i'r ffordd orau bosibl o sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf. Mae Llywodraeth y DU wedi'i gwneud yn glir ei bod wedi ymrwymo i godi'r gwastad ledled y Deyrnas Unedig gyfan er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, yn enwedig wrth i ni wella o bandemig COVID-19. Ac i gefnogi'r amcanion hyn, fel y gwyddom ni i gyd, mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglenni buddsoddi newydd, fel y gronfa codi'r gwastad a'r gronfa adnewyddu cymunedol, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau ledled Cymru. Roeddwn yn falch o glywed Gweinidog Gwladol y DU dros Dwf Rhanbarthol a Llywodraeth Leol yn cadarnhau'n ddiweddar i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y bydd o leiaf 5 y cant yng nghylch cyntaf y gronfa codi'r gwastad yn cael ei dyrannu i Gymru.

Nawr, wrth gwrs, cronfa ffyniant gyffredin y DU yw'r cyfrwng y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei ddefnyddio i ddarparu cyllid rhanbarthol. Fel yr ydym yn ei gwneud yn glir yn ein gwelliant, rydym ni'n credu na ddylai cyllideb flynyddol y gronfa fod yn llai na'r ffrydiau ariannu y mae'n eu disodli. Cyhoeddir rhagor o fanylion mewn fframwaith yn ddiweddarach eleni cyn lansio'r gronfa yn 2022, ond yr hyn a wyddom yw y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan gyflwynir y gronfa ffyniant gyffredin yn union yr un fath â'r swm o arian a oedd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd neu'n uwch na hynny, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i gynnal y lefelau hynny o gyllid. Ac o ystyried yr ymrwymiadau niferus gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mae'n anonest parhau â myth y bydd Cymru rywsut ar ei cholled yn ariannol yn sgil y gronfa ffyniant gyffredin.

Nawr, i symud ymlaen, mae'n bwysig bod dulliau'n cael eu datblygu i sicrhau bod buddsoddiadau'n parhau i gael eu gwneud yn y tymor hwy, a bod system gadarn ar waith i fonitro effeithiolrwydd prosiectau sy'n derbyn cyllid. Yn anffodus, yn ystod y cylch blaenorol o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, cafodd Cymru fwy na dwbl y swm y pen nag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr, ac felly gallaf werthfawrogi pam y mae'r cronfeydd hyn mor arbennig o bwysig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn gwella ar ddarpariaeth y cronfeydd strwythurol mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft darparu cyllid yn gyflymach, targedu lleoedd a phobl mewn angen yn well a, gobeithio, llai o faich gweinyddol drwy lai o ffurflenni a thargedau.

Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod yna ymgysylltu â gweinyddiaethau datganoledig, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu grŵp rhyng-weinidogol er mwyn i Weinidogion y DU gael sgyrsiau rheolaidd â Gweinidogion Cymru, ac rwy'n croesawu'r ymgysylltu hwnnw'n fawr iawn. Rwy'n deall hefyd, yn rhan o broses y gronfa codi'r gwastad, fod yna gam rhestr fer pan fydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar eu barn am brosiectau unigol, ac a ydyn nhw'n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth hanfodol wrth asesu ceisiadau ar y rhestr fer, a chael dweud ei dweud wrth sicrhau bod y ceisiadau cywir yn cael y cyllid cywir.

Llywydd, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drosglwyddo cyllid yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Rydym yn dymuno gweld arian yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth. Nid oes angen rhagor o fiwrocratiaeth arnom ac oedi yn y broses o gael arian allan yno i gymunedau a phrosiectau sydd ei angen. Ni ddylem golli golwg ar yr hyn sy'n bwysig yma. Rwy'n credu bod yr Aelod dros Ogwr yn amlwg yn colli golwg ar hynny. Y gwir amdani yw y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn cefnogi gwell canlyniadau cyflogaeth ac yn cefnogi ac yn datblygu economïau lleol. Mae gennym gyfle i ddisodli system gymhleth a biwrocrataidd gyda dull llawer mwy syml o ariannu twf lleol. Heb os—heb os nac oni bai—fod hynny'n rhywbeth y dylai Aelodau yma fod yn ei groesawu.

Ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi treulio amser ac ymdrech yn gwrthwynebu'r sianel ariannu uniongyrchol i awdurdodau lleol. Os yw Llywodraeth Cymru wir yn credu mewn datganoli, yna datganoli'r cyfrifoldebau a'r penderfyniadau hyn i awdurdodau lleol yw datganoli gwirioneddol ac mae'n sicr mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwyf wedi clywed llawer o rethreg y prynhawn yma gan y Gweinidog, ond hoffwn ei atgoffa bod gan Gymru ddwy Lywodraeth. Fel rhywun sy'n credu yn y Deyrnas Unedig, byddwn i wedi meddwl y byddai e'n croesawu hynny, ond mae'n amlwg y dylai fod yn eistedd ar y meinciau yna gyda'r cenedlaetholwyr, rwy'n credu.

Mae pwynt 4 o gynnig Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryderon rhai arweinwyr awdurdodau lleol. Fodd bynnag, yn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig, gwnaeth arweinydd Cyngor Sir Powys groesawu'r agendâu codi'r gwastad, gan ddadlau, ac rwy'n dyfynnu:

'Mewn sawl ffordd mae hyn yn gadarnhaol i Bowys gan ein bod ni'n un o'r siroedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn y gorffennol, nid ydym wedi elwa ar gronfeydd strwythurol yr UE gymaint ag ardaloedd eraill o Gymru—rydym wedi cael swm bach iawn yn unig—felly yn yr ystyr hwnnw rydym yn hynod ddiolchgar am hyn.'

Yn wir, yn ddiweddarach yn y sesiwn bwyllgor honno, gwnaeth Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru hi'n glir fod arweinwyr awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn yn y trafodaethau y mae e' wedi'u cael gyda nhw, ac rwy'n credu y dylem groesawu hynny ac adeiladu ar y dull cadarnhaol hwnnw.

Byddwn yn gobeithio y byddai Gweinidogion yn croesawu'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gyflymu'r broses o ddarparu'r cyllid hwnnw fel y gall yr arian gyrraedd ein cymunedau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fodd bynnag, yn fy marn i, o leiaf, mae'n ymddangos bod y pwyslais wedi'i golli, ac yn hytrach na chanolbwyntio ar y manteision cadarnhaol enfawr y gall y gronfa hon eu cynnig i Gymru, mae Gweinidogion yn pryderu yn fwy am eu swyddogaeth nhw eu hunain mewn prosiectau cymeradwyo. Felly, rwy'n annog y Gweinidog a'r Aelodau yma heddiw i gofio'r hyn sy'n bwysig yma, sef mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ein cymunedau a chael cyllid a buddsoddiad hanfodol i'r ardaloedd hynny. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.