Datblygiadau Tai

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 12:34 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 12:34, 16 Mehefin 2021

Llongyfarchiadau i chi, Weinidog, ar eich apwyntiad, ac i'r is-Weinidog—Dirprwy Weinidog, dylwn i ddweud—ar yr apwyntiad hefyd.

Un o'r pethau roedd yn rhaid i awdurdodau lleol eu cynnwys fel ystyriaeth graidd wrth ddatblygu'r cynlluniau datblygu lleol oedd rhagamcanion twf poblogaeth y Llywodraeth. Mae pob un o'r cynlluniau datblygu, felly, yn seiliedig ar y data yma, gan adlewyrchu y rhagamcanion hynny. Ers hynny, mae wedi dod yn amlwg fod y rhagamcanion yma yn gwbl anghywir; mewn rhai achosion, mae poblogaethau wedi disgyn yn hytrach na chynyddu. Golyga hyn, felly, fod y cynlluniau datblygu yn fethedig oherwydd eu bod nhw'n seiliedig ar ddata anghywir. Er hynny, mae'r cynlluniau datblygu, er yn seiliedig ar wybodaeth anghywir, yn parhau i fod yn ddogfennau statudol ac mewn grym. Onid yw hi'n bryd derbyn bod y cynlluniau datblygu yma, felly, yn anghywir, ac ailddechrau'r broses yn llwyr? Diolch.