Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 12:42 pm ar 16 Mehefin 2021.
Ie, diolch yn fawr iawn. Felly, mae'n ddatblygiad o'r hyn a ddywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol. Felly, mae'r polisi cynllunio cenedlaethol, fel rwyf wedi dweud eisoes, yn rhoi cryn dipyn o bwyslais ar greu lleoedd a'r camau sy'n rhaid inni eu cymryd i greu lleoedd sy'n diwallu anghenion lles pawb. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol hefyd yn sicrhau ein bod yn meddwl sut y mae ein lleoedd yn ein gwneud yn iachach ac yn gwella ein llesiant. Rwy'n hyderus iawn y bydd y polisi cynllunio yn ein cynorthwyo i greu'r lleoedd y mae COVID wedi dangos bod arnom eu hangen ac sy'n darparu tai o ansawdd da i bawb, yn cefnogi siopau, swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau lleol ac yn lleihau'r angen i deithio.
Ond wrth gwrs, mae gennym argyfwng hinsawdd hefyd, felly daw hyn ochr yn ochr â’r gwersi rydym wedi’u dysgu yn ystod y pandemig am bwysigrwydd lle. Mae angen inni annog pobl i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio gartref neu weithio o bell mewn hybiau, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol yn eich bywyd bob dydd, i greu mannau gwyrdd iach, hygyrch, a’u bod yn cael eu cefnogi gan brosesau cynllunio lleol a rhanbarthol cryf sy'n rhoi'r offer a'r grym i leoedd lleol gynorthwyo gyda’r gwaith o lunio eu dyfodol eu hunain. Felly, hanfod hyn yw sicrhau bod cymunedau yn ganolog i sut yr hoffent i'w cymuned fod, ac fel y dywedais, i adeiladu'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adeiladu'r seilwaith iawn yn y lleoedd iawn, ac i sicrhau y gall ein cymunedau gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd ei angen arnynt o fewn pellter rhesymol i’w—i ble maent yn byw, fel bod eu cymuned yn teimlo fel y dylai cymuned ‘llesiant cenedlaethau'r dyfodol’ deimlo. Drwy'r gyfres o ddogfennau rydym wedi'u cyhoeddi, rydym yn hyderus y gallwn greu’r Gymru yr hoffai pob un ohonom ei gweld.