Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:15 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch. Mae'n amlwg fod angen dysgu gwersi yn dilyn y llifogydd dinistriol yn 2020, ac mae adolygiad CNC yn cydnabod hyn. Eleni, rydym yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o gyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Yn 2020-21, cynyddwyd cyllid refeniw CNC £1.25 miliwn i gyfanswm o £21 miliwn, a chaiff hyn ei gynnal yn 2021-22.