Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 12:48 pm ar 16 Mehefin 2021.
Gwnaf, wrth gwrs, Janet, a chroeso i'ch briff newydd chithau hefyd. Ond wrth gwrs, Janet, rwy’n cydymdeimlo â holl ddioddefwyr tân Grenfell, ac yn wir, gyda phawb sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt. Mae'n gwbl warthus fod yr adeiladau wedi cael eu codi gyda chymaint o ddiffygion. Fodd bynnag, fel y dywedais sawl gwaith yn y Senedd flaenorol, mae hyn yn hynod gymhleth o ran y ffordd y mae cyfraith tir yn gweithio, y ffordd y mae cyfraith eiddo’n gweithio, y ffordd y mae cyfraith lesddaliadol yn gweithio, y ffordd y caiff yr adeiladau eu rheoli, y ffordd y cânt eu hadeiladu ac ati. Ac yn anffodus, nid oes un ateb sy’n addas i bawb. Mae gan bob adeilad set o broblemau sy'n unigryw iddo, ac mae'n anodd iawn rhoi rhywbeth trosfwaol ar waith sy'n gweithio.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cryn dipyn o drafferth yn y maes hwn hefyd. Maent wedi agor nifer o gronfeydd, ond mae'r cronfeydd hynny wedi bod yn llai effeithlon nag y tybiaf y byddent wedi’i hoffi, a bod yn garedig. A hefyd, dim ond ar gyfer rhai o'r problemau cladin y gellir eu defnyddio, ond gwyddom fod gan nifer fawr iawn o'r adeiladau hyn broblemau o ran y ffordd y maent yn rhannu'n adrannau, problemau gyda diangfeydd, problemau gyda larymau a phob math o bethau eraill yn bod gyda hwy. Felly, ar hyn o bryd rydym yn ystyried dull cyfannol o unioni adeiladau, sy'n cynnwys y ffordd y mae'r adeiladau'n rhannu'n adrannau, systemau rhybudd tân, systemau gwacáu a systemau llethu tân. Hyd yn hyn, dim ond un set o gyllid canlyniadol a gawsom gan Lywodraeth y DU, er gwaethaf y symiau mawr iawn o arian a gyhoeddwyd. Cefais sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy gymheiriaid sy'n Aelodau Seneddol, y byddwn yn cael cyllid canlyniadol, ond hyd yn hyn, nid ydym wedi’i gael, ac nid oes unrhyw syniad o gwbl faint o arian a gawn a phryd y byddwn yn ei gael. Felly, hoffwn eich cymorth i sicrhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud wrthym faint o arian y mae’n credu y byddwn yn ei gael fel cyllid canlyniadol, gan ei bod yn anodd iawn cynllunio heb y manylion hynny.
Serch hynny, gyda'r arian sydd gennym eisoes, rydym yn gweithio'n galed er mwyn rhoi cynllun at ei gilydd sy'n debygol o allu cynorthwyo perchnogion adeiladau—rwy'n dweud 'perchnogion adeiladau' fel term cyffredinol, felly er eglurder, nid dyna yw’r term technegol, gan fod nifer o gymhlethdodau, ond y bobl sy'n berchen ar yr adeilad—i ddeall beth sydd o'i le ar eu hadeilad, gan mai dyna'r broblem gyntaf, gan nad oes unrhyw un o'r bobl sy'n byw yno yn arbenigwyr ar hynny, ac mae hyd yn oed gofyn i bobl, 'Beth sydd o'i le ar yr adeilad hwn?' yn beth anodd iawn i'w wneud. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i roi rhywbeth at ei gilydd sy'n caniatáu i bobl gael ateb cywir i 'Beth sydd o'i le ar yr adeilad hwn?' ac yna i allu asesu'r math cywir o gyllid i unioni’r broblem wedyn. Ond mae'n hynod o gymhleth, ac nid ydym yn mynd yn araf am nad ydym yn dymuno ei wneud, rydym yn mynd yn araf am ein bod am ei wneud yn iawn.