Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:18 pm ar 16 Mehefin 2021.
Weinidog, ar dri achlysur gwahanol dros y 14 mis diwethaf, mae tref Caerfyrddin wedi dioddef llifogydd sylweddol wrth i afon Tywi orlifo, gan effeithio ar nifer o fusnesau ar hyd y cei ac yn ardal Pensarn. Wrth edrych ar y rhaglen lywodraethu a lansiwyd ddoe gyda chryn dipyn o seremoni, nid oedd fawr o gyfeiriadau yn yr adran ar newid hinsawdd at wella amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gyda newid hinsawdd yn debygol o arwain at ddigwyddiadau o'r fath yn fwy rheolaidd, a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaed ar ddarparu diogelwch uniongyrchol i dref Caerfyrddin rhag mwy o lifogydd o'r fath?