Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:20 pm ar 16 Mehefin 2021.
Hoffwn innau longyfarch y ddau Weinidog ar eu swyddi newydd. Weinidog, mae adroddiad CNC yn dilyn llifogydd 2020 yn bwysig iawn i drigolion Rhondda, yn enwedig trigolion Pentre, lle bu llifogydd mewn 169 o gartrefi a 12 o fusnesau. Cofnodwyd rheolwr ar ddyletswydd CNC ar y pryd yn dweud:
‘O'r ffotograffau a'r lluniau sydd ar gael mae'n amlwg fod deunydd coediog wedi mynd i mewn i'r cwrs dŵr ac wedi blocio'r grid.'
Yn ddiweddar, cyfarfûm ag arweinydd cyngor RhCT, Andrew Morgan, a gadarnhaodd i mi fod adroddiad adran 19 y cyngor ar fin cael ei gwblhau ac y caiff ei ryddhau yn nes ymlaen y mis hwn. Os yw'r adroddiad yn cadarnhau bod gweddillion coediog wedi cyfrannu'n sylweddol at y llifogydd ym Mhentre drwy flocio gridiau’r cwlfertau, a wnaiff y Gweinidog gyfarfod â CNC gyda mi i drafod yr effaith a'r gost i’r gymuned rwy'n ei chynrychioli?