Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:25 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hynny. O safbwynt gorchudd wynebau, mae gyda ni ganllawiau gweinyddol sydd yn cynghori ysgolion a lleoliadau addysg i edrych yn ofalus ar effaith gwisgo gorchudd wyneb ar bobl sydd yn drwm eu clyw, ac i sicrhau eu bod nhw'n deall yn glir bod effaith hynny'n gallu bod yn sylweddol ar bobl sydd yn dibynnu ar weld wyneb pobl yn glir er mwyn gallu cyfathrebu. Mae'r canllawiau hynny yn gyhoeddus; maen nhw ar gael ar ein gwefan ni ac yn cynnwys linciau at amryw o gyngor arall sydd yn gallu darparu'r cyd-destun i'r ysgolion allu deall beth maen nhw'n ei wneud.
Rydyn ni wedi, wrth gwrs, dros y flwyddyn a mwy diwethaf, darparu cefnogaeth ariannol i'n hysgolion ni er mwyn bod nhw'n gallu addasu y ffordd maen nhw'n gweithio er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gweithio mewn ffordd sydd mor gynhwysol ag sy'n bosibl o fewn amgylchiadau anodd iawn COVID.