Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:26 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi bod yn darllen y cynigion 'Adnewyddu a diwygio' y bore yma, Weinidog, ac rwyf hefyd wedi siarad ag athrawon, a byddwn yn dweud y bydd eich penderfyniad i gadw'r 1,800 o staff tiwtora amser llawn a recriwtiwyd yn gwneud byd o wahaniaeth eleni i ddisgyblion ac athrawon. Cafodd Llywodraeth flaenorol Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol, wrth gwrs, a gan y Sefydliad Polisi Addysg am ei hymateb i'r pandemig, yn enwedig y ffordd y gwnaethant arwain y ffordd drwy fynd ati'n gyflym i ddarparu gliniaduron a dyfeisiau Wi-Fi i ddysgwyr difreintiedig. Felly, sut y bydd y cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y cymorth hwnnw sydd wedi’i dargedu ar gyfer dysgwyr difreintiedig?