Addysgu Plant am Newid yn yr Hinsawdd

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:29 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:29, 16 Mehefin 2021

Diolch ichi am yr ymateb yna. Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael â phryder hinsawdd, neu climate anxiety, sydd yn effeithio ar fwy a mwy o blant ysgol. Mae yna berygl ein bod ni fel cymdeithas yn achosi y pryder hwn fel canlyniad i'r ffordd rydym ni'n ymdrin â newid hinsawdd yn y cyfryngau, ond hefyd yn yr ystafell ddosbarth—siarad am newid hinsawdd, hynny yw, fel rhyw grisis anochel a dinistr sydd ar y gorwel, doed a ddêl. Ac mae astudiaethau'n dangos bod pobl sy'n poeni'n ormodol, neu sy'n dioddef anxiety am bwnc, yn gallu meddwl eu bod nhw'n llai tebygol o wneud rhywbeth am y sefyllfa. Felly, rwy'n awyddus i weld mwy o le yn y cwricwlwm, Weinidog, i drafod newid hinsawdd, ond i'r trafodaethau yna ffocysu ar beth y gallwn ni ei wneud i newid y sefyllfa, i ymbweru plant. Ac mi fuaswn i'n hoffi gofyn i chi a fyddai mwy o adnoddau a chymorth i athrawon yn gallu cael eu rhoi i adnabod pryder hinsawdd ac i ddelio â fe. Ydy hynna'n rhywbeth y byddech chi'n barod i ystyried ei gyflwyno ar gyfer plant ac ysgolion, plîs?