Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Mehefin 2021.
Yn gryno. Wel, yn sicr roedd fy ngyrfa chwaraeon yn fyr iawn, Lywydd [Chwerthin.] Roeddwn yn chwaraewr anhygoel o aneffeithiol pan oeddwn yn yr ysgol, ac rwy'n edifar am hynny mewn sawl ffordd. Rwy'n credu bod y rhinweddau a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei chwestiwn yn hollol gywir o ran datblygiad pobl ifanc, ac rwy'n rhannu'r gofid y mae hi'n ei deimlo nad ydym dros y flwyddyn ddiwethaf efallai, oherwydd y sefyllfa rydym ynddi, wedi gallu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad llawn at gyfleoedd chwaraeon mewn ysgolion a cholegau fel y byddem eisiau iddynt ei gael. Ac rwy'n hyderus iawn y bydd yr amlygrwydd a roddir i iechyd a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn ein helpu i sicrhau bod chwaraeon yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n briodol yn ein system ysgolion.