Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:41, 16 Mehefin 2021

Diolch yn fawr iawn. Neis eich gweld chi ar draws y Siambr ac yn y cnawd, fel petai, am y tro cyntaf ers tro.

Rydym ni'n dilyn trefn wahanol i'r arfer eto eleni o ran arholi disgyblion TGAU, lefel A ac AS. Trefn safoni asesiadau o dan arweiniad ysgolion ac athrawon unigol sydd gyda ni, i bob pwrpas. Yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gyhoeddi y byddan nhw'n rhoi taliad untro o £400 i athrawon oedd ynghlwm â dyletswyddau safoni ychwanegol fel cydnabyddiaeth o'r baich gwaith ychwanegol hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod athrawon sydd efo cyfrifoldebau ychwanegol yn y cylch arholi eleni yn mynd i gael cydnabyddiaeth briodol am y gwaith yma, gan gynnwys yn ariannol—hynny yw, yr athrawon fyddai ddim yn arholwyr allanol i CBAC fel arfer?