Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 16 Mehefin 2021.
Iawn. Ac yn y tymor diwethaf, dywedais y byddai'r cwricwlwm newydd yn ffordd berffaith inni ddechrau cael y sgyrsiau hyn mewn ysgolion. Weinidog, mae eich datganiad yn amlinellu llawer iawn o gyngor, arweiniad, pecynnau cymorth sydd eisoes ar y gweill, ac eto mae'r honiadau hyn yn dal i ymddangos. Beth rydych chi'n disgwyl ei weld yn newid, Weinidog, o ganlyniad i gyhoeddi adroddiad arall, neu fwy o ganllawiau, pan fo cymaint ar gael? A sut y bwriadwch sicrhau bod y pecynnau cymorth newydd hyn yn cyrraedd lle mae angen iddynt eu cyrraedd, a bod ymddygiadau'n dechrau newid mewn gwirionedd?