Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:24 pm ar 16 Mehefin 2021.
Mae ystod o fesurau ar waith i gefnogi dysgu. Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn mewn buddsoddiadau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn ychwanegol at oddeutu £130 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gynyddu'r capasiti i gefnogi dysgwyr.