Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch i'r Aelod am ei eiriau caredig ac am y pwynt atodol a wnaeth. Fe fydd yn gwybod bod prosiectau arfaethedig, gan gynnwys Ysgol yr Hafod, Brymbo ac Ysgol I.D. Hooson, sy'n ddatblygiadau cyffrous yn fy marn i, yn ei ardal ef. Rwy'n credu ei fod oddeutu £12 miliwn o fuddsoddiad i gyd, gyda chyfradd ymyrraeth o tua 65 y cant gan Lywodraeth Cymru, a siarad yn gyffredinol. Felly, credaf fod cyfleoedd cyffrous iawn yn ei ardal ef, ac mae'r ddau ohonom yn rhannu ymdeimlad o gyfle a chyffro am y buddsoddiad yn yr ystâd ysgolion a cholegau yng ngogledd Cymru a ledled Cymru. Ac rwy'n credu bod cyfle yn y blynyddoedd i ddod i ehangu nifer yr ysgolion carbon sero-net. Mae cynllun peilot cyffrous ar y gweill ar hyn o bryd, a gorau po fwyaf y gallwn ei wneud yng nghyswllt hwnnw i gyfrannu at gyflawni ein nodau newid hinsawdd yn yr ystâd ysgolion.