Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gall dysgu yn yr awyr agored ddod â chymaint o fanteision i ddysgwyr o bob oed a gallu. Fodd bynnag, efallai y gellir gweld y manteision mwyaf ymhlith dysgwyr sydd wedi cael trafferth i ymsefydlu mewn lleoliadau addysgol prif ffrwd. Mae hyn yn arbennig o wir am leoliad addysgol awyr agored yn fy etholaeth i, Cynon Valley Organic Adventures, sydd wedi'i leoli yn Abercynon. Weinidog, a wnewch chi dderbyn gwahoddiad i ymweld â'r lleoliad hwn gyda mi i gyfarfod â rhai o'r dysgwyr sydd wedi ffynnu yno yn groes i bob disgwyl ac i drafod yn fanylach pa mor bwysig y gall llwybrau dysgu amgen fel hyn fod wrth sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn gallu cyflawni ei botensial llawn?