5. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:51, 16 Mehefin 2021

Diolch, Llywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ffoaduriaid, sydd yn gyfle i ni i gyd ddathlu’r cyfraniadau mae ffoaduriaid yn eu gwneud i’n cymunedau ni, a hefyd hanes hir a balch Cymru o groesawu pobl sy’n dianc rhag gormes a thrais. Mae Diwrnod Ffoaduriaid y Byd yn cael ei nodi bob blwyddyn yn rhyngwladol ar 20 Mehefin, sef dydd Sul nesaf. Gobeithio y byddwn ni i gyd yn cymryd y cyfle i ddeall mwy ac i ystyried cyflwr miliynau o ffoaduriaid ledled y byd. Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, rwy’n falch iawn o gefnogi’r dyhead i wneud Cymru’n genedl noddfa ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod grwpiau fel Dinas Noddfa Abertawe, yn fy rhanbarth i, yn gweithio yn gyson ac yn ddyfal i gefnogi ffoaduriaid. A hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch Dinas Noddfa Abertawe ar ddathlu eu dengmlwyddiant eleni drwy gynnal cynhadledd yr wythnos hon.

Ond mae yna fwy y gallwn ni ei wneud. Mae’r pandemig wedi datgelu a dyfnhau llawer o’r problemau gyda’n system lloches a mewnfudo. Ar lefel lywodraethol, rwy’n credu bod angen inni bwyso ar Lywodraeth San Steffan i newid ei chynlluniau fydd yn ei gwneud hi’n anos i bobl geisio lloches yma, ac rwyf am weld Llywodraeth Cymru nawr yn mynd ymhellach o ran y cynllun cenedl noddfa, gan wireddu’r addewid i ymestyn y lwfans cynhaliaeth addysg i ddisgyblion sy’n geiswyr lloches, ynghyd â sicrhau mynediad at brydau ysgol am ddim a’r grant amddifadedd disgyblion. Mae’n ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r bobl fwyaf bregus yma, ac rwy’n diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i godi’r mater. Diolch.