Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac mae'n bleser mawr gennyf agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac am adeg i fod yn trafod y pwnc hwn, gyda'n llwyddiannau chwaraeon diweddar a Chymru'n chwarae yn yr Ewros y prynhawn yma—ac rwyf fi, fel chithau, Lywydd, yn gobeithio y byddwn yn gorffen mewn pryd heddiw i weld y gic gyntaf yn y gêm yn erbyn Twrci. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos efallai na fu erioed amser gwell i fod yn gefnogwr chwaraeon Cymru.
Chwaraeon yw un o'r ychydig bethau yn ein gwlad, a hyd yn oed yn y Siambr hon, sydd â'r pŵer i uno pob un ohonom. Rwy'n siŵr bod Aelodau o bob rhan o'r Senedd wedi dathlu'n frwdfrydig pan sgoriodd Kieffer Moore y gôl gyfartal ddydd Sadwrn yn erbyn y Swistir, oherwydd mae gwylio Cymru yn brofiad cymunedol sy'n ein gwneud yn falch o bwy ydym ni ac yn falch o fod yn Gymry. Rydym yn gweld ein hunain yn ein harwyr chwaraeon, ein profiadau cyffredin, ein cariad at ein gwlad a'n penderfyniad i lwyddo.
Ond dyma'r un rhesymau pam y dathlodd pobl ledled Cymru pan enillodd Andy Murray Wimbledon, neu pan fydd Rory McIlroy yn ennill un o'r prif gystadlaethau golff, neu pan fydd Mo Farah yn ennill y wobr aur Olympaidd i dîm Prydain. Oherwydd gwelwn ein hunain yn yr arwyr chwaraeon hyn hefyd. Oherwydd mae pobl yng Nghymru hefyd yn falch iawn o fod yn Brydeinwyr; gwelwn ein hunaniaeth Brydeinig yn yr athletwyr hyn, a'r profiadau a'r gwerthoedd cyffredin a grybwyllais yn gynharach. Oherwydd rydym yn deall y gallwn fod yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, ac nid yw'r ddau beth yn gwrthddweud ei gilydd.
Ond cyflwynwyd y ddadl hon heddiw nid yn unig i orfoleddu yn ein llwyddiant yn y byd chwaraeon, ond hefyd i cydnabod manteision chwaraeon yn ein cymdeithas, ein heconomi a'n bywydau bob dydd. Mae'r achos economaidd dros fuddsoddi mewn chwaraeon yn glir iawn. Canfu ymchwil ddiweddar a gyflawnwyd gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam y ceir enillion o £2.88 am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru, tra amcangyfrifir bod digwyddiadau mawr a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm yn unig yn rhoi hwb o £32 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn ar ffurf allbwn economaidd Cymreig, gyda £11 miliwn ohono'n werth ychwanegol crynswth, yn ogystal â'r rhan y mae'n ei chwarae yn cefnogi swyddi yn y gadwyn gyflenwi.
Mae'n siomedig, felly, nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwireddu potensial economaidd Cymru a'i photensial yn y maes chwaraeon yn llawn. Er enghraifft, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â symud ymlaen gyda chais am Gemau'r Gymanwlad 2026, er gwaethaf astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ei hun yn amlinellu llawer o fanteision i'n heconomi, megis creu swyddi ac incwm ychwanegol i fusnesau Cymru, sy'n bethau y cafodd Glasgow fudd ohonynt pan gynhaliwyd gemau 2014.
Ond nid mewn chwaraeon elît yn unig y gwelwn fanteision buddsoddi priodol. Mae GIG Cymru yn gwario tua £35 miliwn bob blwyddyn ar drin clefydau y gellir eu hatal a achosir gan anweithgarwch corfforol. Dyna pam ein bod am weld mwy o fuddsoddi i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ein cymunedau ledled Cymru. Dyna pam ein bod yn galw yn ein cynnig heddiw am fuddsoddi mewn rhwydwaith mwy o gaeau 3G a 4G ledled Cymru, ac yn gofyn am alluogi pobl ifanc i gael mynediad am ddim i gampfeydd a chanolfannau hamdden awdurdodau lleol. Dylai hynny olygu bod gan bobl Cymru fynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd da yn eu hardaloedd a'u cymunedau, waeth beth fo'u lefel sgiliau neu god post.
Mae ein cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhagoriaeth mewn chwaraeon ar gyfer y dyfodol yng Nghymru drwy sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru ar lwyfan y byd, a rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Oherwydd oni bai ein bod yn buddsoddi yn ein harwyr chwaraeon heddiw, ni fyddwn byth mewn sefyllfa i ddathlu eu llwyddiannau mewn chwaraeon yn y dyfodol a sicrhau lle Cymru ar lwyfan y byd mewn chwaraeon.
Rwyf hefyd yn siŵr y bydd pob Aelod o'r Senedd hon yn ymwybodol o grwpiau a chlybiau chwaraeon yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau sydd wedi cael trafferth yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Yn wir, mae'n ddigon posibl mai chwaraeon yw un o'r sectorau sydd wedi'u taro galetaf ers dechrau'r pandemig. Yn ôl Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, er enghraifft, mae clybiau pêl-droed ar lawr gwlad wedi colli £7,000 yr un ar gyfartaledd, ac mae 97 y cant o glybiau pêl-droed yn dweud eu bod wedi cael eu heffeithio'n ariannol, a dros hanner wedi dweud y byddant yn colli gwirfoddolwyr. Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru wedi disgrifio'r pandemig fel trychineb i'r gamp, yn enwedig gyda'r effaith ariannol ar y gêm ar lawr gwlad. Dyna pam y mae gan y cynnig gynllun i weddnewid y sefyllfa hon, nid yn unig drwy gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan, ond hefyd drwy greu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i gynorthwyo'r clybiau cymunedol hyn yn sgil y pandemig.
Felly, am y rhesymau hyn mae'n siomedig iawn gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu eu hymagwedd 'dileu popeth' arferol at ein cynnig, yn enwedig pan fo'n gwneud galwadau penodol a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i bobl yng Nghymru. Mae'r gwelliannau yn llythrennol yn dileu'r posibilrwydd o adferiad ar ôl y pandemig i rai o'r clybiau chwaraeon hyn, ac nid ydynt yn gwneud fawr ddim i gynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Gwyddom i gyd y gall pob un ohonom wneud mwy i gefnogi'r sector, a dyna pam na fyddwn yn pleidleisio dros eu gwelliannau heno; byddwn yn ymatal arnynt.
Fel arall, hoffwn groesawu ail welliant Plaid Cymru i gynyddu nifer y merched yn eu harddegau a phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon. Rwy'n credu ei fod yn un hanfodol ac amserol iawn, ac rwy'n llongyfarch Plaid Cymru ar wneud hynny. Nid yw cynigion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ailstrwythuro cynghrair y menywod, er enghraifft, yn gwneud dim o gwbl i gynyddu nifer y merched yn eu harddegau sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn cefnogi ail welliant Plaid Cymru heddiw.
Felly, gofynnaf i'r Aelodau ym mhob rhan o'r Senedd gefnogi ein cynnig heddiw, gan ein bod yn gwybod mai'r ffordd orau o gael chwaraeon llwyddiannus yfory yw eu cefnogi heddiw.