Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch, Llywydd. Hoffwn gyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn ffurfiol, a nodi fy niolch innau am y cyfle i drafod ar ddiwrnod lle rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Twrci, ac, ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno yn dda i'r garfan.
Bwriad ein gwelliannau yw ychwanegu at y cynnig gwreiddiol mewn ffordd adeiladol, a hoffwn weld y Senedd yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol ar y mater hwn i sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen fel bod pawb yng Nghymru gyda'r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon er budd eu hiechyd a'u lles a chyrraedd eu llawn botensial. Dengys ymchwil a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru yn 2018 y canlynol: sef, am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru, ceir elw o £2.88. Ond nid dim ond budd economaidd o ran creu swyddi a gwariant yng Nghymru a geir yn sgil chwaraeon; mae hefyd yn creu arbedion sylweddol o ran y gwasanaeth iechyd, gan helpu pobl i fyw bywydau mwy actif a iachus a lleihau'r risg o glefyd difrifol. Yng nghyd-destun COVID, mae hyn yn berthnasol iawn.
Fel pob sector arall, mae'r sector chwaraeon ar bob lefel wedi ei effeithio gan y pandemig. Mae heddiw, felly, yn gyfle da inni edrych tuag at y dyfodol, a thrafod camau cadarnhaol gellir eu cymryd gan y Llywodraeth i sicrhau bod sector chwaraeon Cymru yn mynd o nerth i nerth.
Mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru yn tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio'n benodol ar wella cyfranogiad gan ferched yn eu harddegau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan felly gryfhau'r frawddeg wreiddiol. Fel mae rhaglen llysgenhadon chwaraeon ColegauCymru wedi ei dangos, mae cael llysgenhadon yn dod â manteision mewn tair ffordd wahanol: yn gyntaf, ar lefel strategol, bydd yn arwain at wydnwch cynyddol gweithlu'r dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd sy'n cynyddu sgiliau, profiadau a hunanhyder. Yn ail, i ysgolion a cholegau, bydd yn golygu y bydd llais ieuenctid yn cael ei ymgorffori ymhellach yn y coleg, ac, yn drydydd, o ran y llysgenhadon eu hunain, bydd yn arwain at ddatblygu sgiliau newydd, gan gynnwys ymchwil, y cyfryngau a chyfathrebu, a bydd hefyd yn cefnogi datblygiad cyfleoedd gwirfoddoli, arwain a mentora newydd ar gyfer nhw eu hunain a phobl ifainc eraill yn eu coleg neu awdurdod lleol.
Bwriad ein hail welliant yw ychwanegu pwyntiau eraill rydym yn credu sydd yn hanfodol o ran gwella mynediad i chwaraeon a chyfranogiad. Mae manteision cael campfa mewn sefydliadau addysg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hyfforddiant chwaraeon penodol. Mae rhaglen ffitrwydd corfforol sy'n defnyddio offer hyfforddi cryfder yn helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion iach a fydd yn aros gyda nhw drwy gydol eu bywydau a lleihau'r risg o glefyd cronig mewn oedolion.
O ran darlledu chwaraeon menywod, er bod cynnydd wedi bod, mae dal gwaith pellach i'w wneud os ydym am normaleiddio chwaraeon menywod yn y cyfryngau. Yn ôl arolwg o 2019 o dros 10,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig, fe wnaeth 61 y cant o ferched ifanc gytuno y byddent yn teimlo yn fwy hyderus pe bai mwy o bobl 'fel fi' ar y teledu, o'i gymharu â 43 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Yn bwysig, dywedodd gwylwyr mai'r prif rwystr i wylio mwy o chwaraeon menywod yw'r diffyg sylw, nid ansawdd y gamp sy'n cael ei chwarae.
Cyfrifoldeb pawb yw'r frwydr yn erbyn homoffobia, rhywiaeth a thrawsffobia mewn chwaraeon. Mae angen i amcan y frwydr hon fod yn ddeublyg: ar yr un llaw i hyrwyddo a sicrhau parch at hawliau dynol ac urddas pob unigolyn, ac, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â gwahaniaethu a thrais yn eu herbyn.
Ac yn olaf, rydym yn credu'n gryf y dylid ymchwilio i'r potensial o gael pwll nofio maint Olympaidd yng ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i nofwyr talentog o'r gogledd sy'n cael eu dewis i gynrychioli Cymru deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i gael hyfforddiant. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r genhedlaeth nesaf o nofwyr Cymru gyrraedd y safon uchaf a chyflawni eu potensial.
Mawr obeithiaf y bydd y pleidiau eraill yn cefnogi'r gwelliannau hyn i gryfhau'r cynnig gerbron heddiw, a ddim yn derbyn gwelliant y Blaid Lafur, fyddai'n colli nifer o'r pwyntiau pwysig hyn. Dwi'n falch o ddweud fy mod i wedi gorffen o dan fy amser, Llywydd, fel ein bod ni, gobeithio, yn gallu gwylio'r gêm.