Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, ac fe wnaf yn wir, Lywydd. Fe gadwaf hyn yn fyr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl. Byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Er bod elfennau da, mae'n rhaid i mi ddweud, yn y ddau welliant a nodwyd, gwelliant Llywodraeth Cymru yma, hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, cyfleusterau newydd, gan gynnwys caeau artiffisial 3G ac yn y blaen—mae'n welliant da ac yn haeddu cefnogaeth.
Ond a gaf fi ddweud, ar hyn o bryd, Lywydd, nad y pêl-droed yn unig sy'n mynd â'n sylw ar hyn o bryd? Mae rhai Aelodau hefyd yn meddwl am Gemau Olympaidd Tokyo—na, na, nid y Gemau Olympaidd hynny yn Tokyo, Gemau Olympaidd Tokyo 1964, lle neidiodd Lynn Davies, a adwaenid erioed fel Lynn 'The Leap' Davies o Nant-y-moel, yn y gwynt a'r glaw i mewn i'r llyfr chwedlau, gan ennill y fedal aur yn y naid hir. Fe'i gwnaeth am fod yr amodau'n briodol i fachgen o Nant-y-moel. Ac yn hollol groes i'r disgwyl, yn erbyn yr holl broffwydoliaethau, fe gurodd bencampwr y byd. A'r rheswm rwy'n crybwyll hynny yw oherwydd gallu pobl fel Lynn Davies—yn 1964 yr enillodd y fedal aur honno, ond eisteddais gydag ef yng Nghlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr ac eisteddais gydag ef yng Nghlwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel, lle tynnodd ei fedal aur allan, yn edrych fel pe bai wedi gweld dyddiau gwell, ac fe'i rhannodd gyda'r bobl ifanc a oedd yn eistedd o'i gwmpas, a gallech weld eu llygaid yn goleuo, 'Pam na allai fod yn fi, fel rhywun sydd hefyd yn mynd i'r clwb bechgyn a merched hwnnw?' Mae'n bwysig fod gennym arwyr chwaraeon, gan gynnwys yr arwyr chwaraeon sydd gennym ar hyn o bryd yn rhedeg ar y caeau yn lliwiau Cymru heno hefyd.
Ond mae'n fwy na'r arwyr chwaraeon yn unig, mae'n ymwneud hefyd â'r digwyddiadau mawreddog a wahoddwn yma i Gymru, rhywbeth rydym wedi'i wneud o'r blaen gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ac rwyf am wneud un awgrym, ac mae'n ddrwg gennyf rygnu ymlaen am Nant-y-moel unwaith eto, ond mae mynydd Bwlch yn mynd ar draws y top—lle daw tair ffordd at ei gilydd ar ben y mynyddoedd. Mae'n fendigedig, mae'n anhygoel, mae'n addas ar gyfer cael gwylwyr yn sefyll ar ochr y ffyrdd hynny'n gwylio un o gamau'r Tour of Britain. Gadewch inni ddod ag ef yma yn y dyfodol. Beth am arddangos y gorau o Gymoedd de Cymru. Gadewch inni arddangos y gorau o chwaraeon egnïol o'r fath yma, yng ngwychder ysblennydd Cymoedd de Cymru, a dangos i'r byd y gorau o'r hyn sydd gennym hefyd.
Ond y tu hwnt i'r holl ddynion a menywod gwych hyn ym maes chwaraeon, a digwyddiadau gwych hefyd, chwaraeon ar lawr gwlad yw'r hyn sy'n tueddu i fod yn bwysig i'r rhan fwyaf ohonom. Y gemau pêl-droed yr awn i'w gwylio yn y gwynt a'r glaw a'r cesair, a sefyll ar yr ochr, gyda'n plant, gyda'r gymuned, gyda thimau rydym yn eu hadnabod, a rhai timau rydym yn chwarae yn eu herbyn hefyd. Y rygbi, pêl-rwyd—yr holl chwaraeon lleol llawr gwlad sydd mor bwysig, ac maent wedi dioddef yn ystod y pandemig, wedi cael eu taro'n galed. Ac nid yn unig fod ganddynt aelodau ifanc yn dod drwodd sydd wedi mynd flwyddyn, neu 18 mis bellach, heb allu trosglwyddo i lefelau uwch y timau ieuenctid a'r timau oedolion ac yn y blaen, er mor bwysig yw hynny, a gwyddom fod hynny'n achosi anhawster, ond y ffaith eu bod yn colli incwm yn eu bariau a'u hystafelloedd cyfarfod a'u lleoliadau. Mae wedi'u taro'n galed iawn.
Felly, Weinidog, fy apêl i chi wrth gefnogi'r gwelliant heddiw—ac rwy'n tybio y byddem i gyd yma yn apelio yn yr un modd—yw gweld beth yn fwy y gallwn ei wneud i wneud dau beth: sicrhau bod y clybiau hyn, ar gyfer pob math o chwaraeon i bawb, nid clybiau rygbi a phêl-droed yn unig ac nid chwaraeon i ddynion yn unig ond i bawb, yn gallu croesi i ochr draw y pandemig hwn yn hyfyw, gyda chymorth ychwanegol os oes angen. Ac yn ail, sut rydym yn pontio'r bwlch lle mae pobl ifanc mewn perygl yn awr o ddisgyn oddi ar yr ymyl a methu trosglwyddo i lefelau uwch mewn chwaraeon? Os na wnawn ni hynny, nid colli chwaraeon ar lawr gwlad yn unig a wnawn, ond colli'r Lynn the Leap nesaf, chwaraewyr nesaf tîm pêl-droed Cymru ac yn y blaen. Felly, byddai unrhyw beth y gallwch ei wneud i'r perwyl hwnnw'n cael croeso mawr.