Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 16 Mehefin 2021.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar bwnc sydd wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, ac sy'n parhau i wneud hynny. O oedran cynnar iawn, rwyf wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn chwaraeon. Er fy mod bob amser yn frwdfrydig, ni allaf honni fy mod erioed wedi bod mor dda â hynny mewn unrhyw gamp benodol. Fodd bynnag, rwy'n hyrwyddo'n frwd y manteision iechyd corfforol a meddyliol y mae chwaraeon yn eu cynnig i fywyd yr unigolyn. Ac rwy'n lwcus fod gan sir Benfro a sir Gaerfyrddin gymuned chwaraeon mor weithgar, gyda llawer o arwyr chwaraeon Cymru: pencampwr pêl-droed Arberth ei hun, Joe Allen; un o Lewod Prydain ac Iwerddon o Fancyfelin, Jonathan Davies, a Manon Lloyd, enillydd medal aur mewn beicio a aned yng Nghaerfyrddin—mae'r rhain i gyd wedi cynrychioli eu gwlad ar y lefel uchaf ac maent yn fodelau rôl i lawer.
Rwy'n sicr wedi dysgu llawer o sgiliau cymdeithasol o'r ystafelloedd newid rygbi a chriced o oedran cynnar, ac rwy'n gwybod bod eraill wedi gwneud hynny hefyd. Ynghanol arogl parhaol Deep Heat, mae chwaraeon tîm yn ymwneud â bod ynddi gyda'ch gilydd—eich bod chi'n gefn i aelodau eraill eich tîm a'u bod hwythau'n gefn i chi. Mae'r profiadau a rennir o fod ar y maes, y cae neu'r cwrt yn helpu i greu bond a datblygu cymeriad. Mae hefyd yn dysgu gwerth gweithio'n galed i gyflawni amcanion i bobl o oedran cynnar. Os ydych chi'n ymarfer digon, yn hyfforddi'n galed, nid oes unrhyw rwystrau i'r cerrig milltir personol y gallwch eu cyrraedd. Mae chwaraeon hefyd yn wych am hybu symudoledd cymdeithasol. Pan fydd y cyfleoedd yno, ni ddylai fod unrhyw ffin ar eich potensial heblaw eich talent.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd chwaraeon yn achubiaeth ac yn ddihangfa. Wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau cael effaith ar ein hiechyd meddwl, roedd mynd yn ôl i allu cicio pêl gyda ffrindiau neu ddiwrnod yn yr haul yn chwarae criced yn ffordd fawr ei hangen o ryngweithio'n gymdeithasol ac yn helpu'r rhai, gan gynnwys fi fy hun, a oedd wedi ei chael hi'n anodd yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd, fe helpodd rai ohonom i golli peth o bwysau ychwanegol y cyfyngiadau symud, er bod fy mam yn fy atgoffa'n syth fy mod wedi ennill hwnnw'n ôl yn gyflym. Nid wyf yn ddall i'r eironi y gallai ein dadl heddiw arwain at drafodion yn y Siambr a fydd yn para dros y gic gyntaf yng ngêm Cymru-Twrci yn y bencampwriaeth Ewropeaidd. Rwy'n gwybod bod yr Aelodau'n awyddus i gefnogi'r tîm, felly fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr a chanolbwyntio ar dri phrif bwynt.
Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd y galwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod Tom Giffard wrth agor y ddadl. Gall Cymru gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, o Gwpan Rygbi'r Byd 1999 i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn fwy diweddar yn 2017. Felly, gyda siom ddiffuant y penderfynodd Llywodraeth Cymru yn erbyn mynd ar drywydd cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad. Gyda Birmingham yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf yn 2022, rwy'n siŵr y bydd llawer o gefnogwyr Cymru yn gwneud y daith fer dros y ffin i weld rhai o athletwyr gorau'r byd. Mae'r gwaddol y bydd y ddinas yn ei ennill yn enfawr, ac mae'r effaith ganlyniadol i'r ardal a'r gymuned leol yn sylweddol. Weinidog, mae uchelgais yn hollbwysig, a byddai Gemau'r Gymanwlad i Gymru gyfan yn agor ein gwlad i'r byd. Mae llawer o'r seilwaith eisoes yn ei le—y pwll 50m yma yng Nghaerdydd, y felodrom yng Nghasnewydd. Pwy na fyddai'n croesawu rhai o'r digwyddiadau yn eu rhannau eu hunain o Gymru? Hwylio ar afon Menai, beicio mynydd ym Mannau Brycheiniog, y triathlon yn y môr ac ar ffyrdd yn sir Benfro, ac wrth gwrs, pêl foli'r traeth ar dywod Pentywyn. Pa hysbyseb well i'n cenedl chwaraeon wych?
Efallai y cofiwch hefyd, Weinidog, imi ddefnyddio cwestiwn i'r Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl i dynnu sylw at bwysigrwydd cystadleuaeth Ironman i Ddinbych-y-pysgod a de sir Benfro. Mae'r digwyddiad hwn, y gwn ei fod wedi cael cefnogaeth gan yr awdurdod lleol rwy'n dal yn aelod ohono, a Llywodraeth Cymru, yn cael ei gydnabod fel un o drysorau chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m ar gyfer y digwyddiad yn ei daro'n galed. Cynhelir Ironman Cymru yn yr awyr agored, ac mae'n ymddangos yn rhyfedd, wrth i bobl gael eistedd o amgylch bwrdd y tu mewn i dafarn, fod digwyddiad athletaidd elitaidd yn y fantol oherwydd y rheol 2m. A gaf fi eich annog, os gwelwch yn dda, Weinidog, i ymchwilio i'r mater hwn, ac ystyried llacio'r rheol 2m, er mwyn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad eto ac y gall fod yn llwyddiannus unwaith eto ym mis Medi?
Ac yn olaf, ond yn bwysicaf oll, yn dilyn y golygfeydd gofidus dros y penwythnos o'r pêl-droediwr o Ddenmarc Christian Eriksen yn disgyn ar gae pêl-droed ac yn cael triniaeth i achub ei fywyd, roeddwn am dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ar gaeau pêl-droed. Cyflwynais ddatganiad barn yn gynharach yr wythnos hon yn galw am waith parhaus i sicrhau bod yr offer hwn sy'n achub bywydau wedi'i leoli ym mhob maes chwarae yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi'i lofnodi, ac rwy'n falch ei fod wedi casglu cefnogaeth mor drawsbleidiol. Gobeithio bod momentwm, ewyllys wleidyddol, i wireddu hyn. Diolch i Delyth Jewell am ei geiriau caredig ar hyn yn gynharach. Hefyd, hoffwn roi clod i Suzy Davies am ei gwaith yn sicrhau y bydd CPR yn cael ei addysgu yn y cwricwlwm newydd.
Ac i osgoi eich pechu, Lywydd, ond i orffen yn derfynol gennyf fi, c'mon Cymru.