6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Chwaraeon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 3:18, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Gadewch imi ymuno, yn gyntaf oll, â Mr Giffard a'r holl gyd-Aelodau ar draws y Siambr i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru heno. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at wylio'r gêm honno cyn bo hir. Fel y dywedodd Mr Giffard, mae gan chwaraeon bŵer i'n huno. Dyna un o'r pethau mwyaf diddorol am chwaraeon. Gallaf innau hyd yn oed, fel un o gefnogwyr rhwystredig Nottingham Forest, ymuno â Mr Sargeant, cefnogwr Newcastle United, i gefnogi ein gwlad gyda'n gilydd. A rhaid inni gydnabod ein bod, fel gwlad o ychydig dros 3 miliwn o bobl, yn parhau i wneud yn llawer gwell na'r disgwyl mewn chwaraeon.

Fel y gwyddom yn iawn, ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ffyrdd gwych o wella lles meddyliol a chorfforol pobl. Yr hyn sydd hefyd wedi'i rannu yma y prynhawn yma yw'r manteision cymdeithasol ac economaidd y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cynnig i Gymru. Gyda'r manteision cyfannol hyn mewn golwg yr hoffwn i fy nghyfraniad byr, Lywydd, ganolbwyntio ar y rôl a'r cyfle y gall chwaraeon llawr gwlad, ond yn fwyaf arbennig, y gall chwaraeon elît eu cynnig ledled Cymru. Byddwn wrth fy modd ar y pwynt hwn pe bawn yn gallu datgan buddiant fel athletwr elît, ond yn anffodus ni allaf—oni bai wrth gwrs ein bod yn cynnwys golff traed fel camp elît, Lywydd.

Ond o fewn y cynnig heddiw gan Mr Giffard, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd, yn ogystal â gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon. Y rheswm am hyn yw ei bod yn amlwg fod cymaint i'w ennill o fuddsoddi mewn chwaraeon elît. Fel y gwyddom, y chwaraewyr hyn sy'n aml yn ysbrydoli cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau ac yn wir, soniodd Mr Irranca-Davies yn ei gyfraniad—a diolch ichi am fy ngoleuo ar Lynn 'The Leap'—am y modd y cafodd ei ysbrydoli wrth weld mabolgampwr elît a'r fedal a enillodd Lynn.

Yn anffodus, fodd bynnag, ceir bwlch mewn cyfleusterau a chymorth elît, yn enwedig y mynediad i bobl ifanc o ogledd Cymru o gymharu â'r hyn sydd ar gael yn ne Cymru. Wrth gwrs, mae gennym Glwb Pêl-droed Wrecsam yng ngogledd Cymru, a byddai fy niweddar daid, Hywel Hefin Rowlands, yn falch iawn o fy nghlywed yn sôn am glwb pêl-droed Wrecsam heddiw, ond dyna'r unig dîm chwaraeon proffesiynol yng ngogledd Cymru. Mae'r boblogaeth yn agos at 1 filiwn o bobl ac un tîm chwaraeon proffesiynol yn unig a geir yn y rhanbarth. Ac os edrychwn ar rygbi fel enghraifft arall, mae pedwar tîm rhanbarthol proffesiynol yn ne Cymru, ond ni cheir tîm proffesiynol yn y gogledd hyd yma. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn fod cymaint o'r cyfleusterau a'r gefnogaeth elît bedair neu bump awr i ffwrdd oddi wrth lawer o bobl yng ngogledd Cymru, yn anffodus. Ac o ran cael y timau proffesiynol hyn yng ngogledd Cymru a'r buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon elît yn y rhanbarth, bydd llawer o chwaraewyr ac athletwyr yn aml yn gweld y rhwystrau hynny a naill ai'n rhoi'r gorau i gystadlu neu'n symud dros y ffin i gystadlu yn y gweithgareddau hynny, ac mae hynny'n rhywbeth na allwn ei dderbyn fel Senedd Cymru yma y prynhawn yma.

Mae gogledd Cymru hefyd yn cael eu gadael ar ôl ar adegau pan ddaw'n fater o fynediad i wylwyr a chefnogwyr. Yn ddiweddar, cawsom y gemau pêl-droed cyfeillgar cyn y bencampwriaeth Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni chwaraewyd yr un o'r rheini yng ngogledd Cymru, ac i lawer o'r gwylwyr hynny mewn gwirionedd, ar gyfer y gemau nos hynny, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r nos iddynt allu dychwelyd adref. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall y dylid edrych arno er mwyn annog pobl i gymryd rhan a chael eu hysbrydoli gan chwaraeon elît.

Felly, i gloi, Lywydd, rydym yn genedl lwyddiannus mewn chwaraeon ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o waith a chydweithrediad rhwng y sefydliadau cyfrifol, ac mae hyn yn cynnwys Llywodraethau, i sicrhau na chaiff chwaraeon yng Nghymru eu canoli'n ormodol yn ne Cymru a'u bod yn hygyrch ac yn gynrychioliadol o Gymru gyfan, gan gynnwys yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli yn rhanbarth Gogledd Cymru. Byddai ein cynnig heddiw, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn sicrhau bod y bwlch hwn rhwng y rhanbarthau yn cael ei gau drwy ddarparu cefnogaeth a buddsoddi mewn chwaraeon elît, yn ogystal â chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig Ceidwadol ac i wrthod gwelliant y Llywodraeth. Diolch yn fawr iawn.