Part of QNR – Senedd Cymru ar 16 Mehefin 2021.
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae gosod y sylfeini i ehangu mynediad at addysg Gymraeg yn ymgyrch tymor hir. Rydym ni’n torri tir newydd gyda chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg 10 mlynedd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffrwyth y llafur hynny.