Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Brif Weinidog, rhyw flwyddyn yn ôl, mi oeddech chi'n cyhoeddi bod ysgolion am gael ailagor eto ar ôl cyfnod clo hirfaith, ond rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, gymaint mae teimlo'n ynysig, bod ar wahân o'u ffrindiau wedi cael effaith drom ar lesiant ac iechyd meddwl pobl ifanc. Rŵan, drwy gydol y pandemig, dydy'r gyfran o bobl ifanc sy'n aros dros bedair wythnos am apwyntiad ar ôl cael referral i dîm gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol erioed wedi disgyn dan chwarter. Ydy hynny'n ddigon da?