Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:56, 22 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Ac wrth gwrs, mae angen i ni gyfeirio pobl at y math iawn o gymorth, ond allwn ni ddim bychanu pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol CAMHS ychwaith. Ac fe fu cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn ystod pedwar mis cyntaf eleni o'i gymharu â'r llynedd. Ond fe wnaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd lawer o waith ar effaith y pandemig, a thynnodd sylw yn benodol at y broblem hon o'r canol coll—y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc y mae angen cyngor a chymorth iechyd meddwl arnyn nhw ond nad oes angen gwasanaethau acíwt neu arbenigol arnyn nhw o bosibl. Felly, cytunaf â'r Prif Weinidog ar hynny.

Byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi cyflwyno cynigion ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau galw heibio ledled Cymru, a fydd yn cynnig cyngor a chymorth iechyd meddwl cyfrinachol rhad ac am ddim i bobl ifanc. Nawr, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno y gallai rhwydwaith o'r fath—yn awr, yn arbennig, ar ôl y pandemig, efallai—gynnig achubiaeth i'r miloedd o bobl ifanc sydd wedi eu dal yn y canol coll hwnnw ar hyn o bryd? Ac os felly, a fyddech chi a'ch swyddogion yn cyfarfod â mi i drafod mynd ar drywydd y cynnig hwnnw ymhellach?